Chwe opsiwn amddiffynfeydd llifogydd posib i Lanelwy

  • Cyhoeddwyd
Llanelwy
Disgrifiad o’r llun,

Roedd llifogydd difrifol yn Llanelwy wedi glaw trwm yn 2012

Mae chwe opsiwn ar gyfer adeiladu amddiffynfeydd llifogydd newydd yn Llanelwy yn cael eu hystyried gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Mewn adroddiad, mae CNC yn dweud y bydd manteision ac anfanteision pob opsiwn yn cael eu hystyried cyn penderfynu.

Daw'r adroddiad wedi llifogydd difrifol yn y ddinas yn 2012.

Roedd rhaid i gannoedd adael eu cartrefi pan orlifodd yr Afon Elwy a difrodi tua 400 o dai.

Dulliau modelu newydd

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod yr opsiynau dan sylw wedi eu profi gan ddefnyddio dulliau modelu llifogydd newydd, yn defnyddio data o'r llifogydd yn 2012.

Mae'r opsiynau sy'n cael eu hystyried yn cynnwys:

  • Codi argloddiau drwy ddinas Llanelwy;

  • Gostwng argloddiau ymhellach i lawr yr afon i alluogi i ddŵr orlifo i dir gwag;

  • Newid pont Spring Gardens yng nghanol Llanelwy;

  • Tynnu coed o lan yr afon a chreu ardal storio dŵr y tu allan i'r ddinas.

Cafodd dros 400 o dai eu heffeithio wrth i'r Afon Elwy orlifo yn 2012, a bu rhaid i nifer fawr adael eu cartrefi.

Digwyddodd y llifogydd oherwydd glaw trwm, parhaol ar dir gwlyb.

Daeth adroddiad diweddar i'r casgliad nad oedd amddiffynfeydd yn yr ardal yn ddigonol, a bod risg o 1 mewn 30 o lifogydd o'r fath, yn hytrach nag 1 mewn 100 fel oedd y cyngor yn ei gredu.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cannoedd o bobl eu heffeithio gan lifogydd yn Llanelwy

'Cam pwysig ymlaen'

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, bydd arbenigwyr a pheirianwyr yn penderfynu ar ba opsiwn, neu gyfuniad o opsiynau, fydd orau i Lanelwy.

Dywedodd Keith Ivens, o CNC: "Achosodd llifogydd 2012 ddioddefaint i fywydau cannoedd o bobl yn Llanelwy, ac rydym wedi ymrwymo i ganfod ateb i leihau'r perygl y bydd llifogydd yn effeithio arnynt yn y dyfodol.

"Mae cyhoeddi'r opsiynau yn gam pwysig ymlaen. Nawr mae angen inni asesu pa un opsiwn unigol neu ba gyfuniad o opsiynau fydd yn gweithio orau ar gyfer Llanelwy ac rydym yn croesawu cyfraniad gan bobl leol sy'n gwybod llawer am yr ardal, i'n helpu i wneud y penderfyniad hwn.

"Fel yr ydym wedi gweld ers dechrau'r flwyddyn mae'r tywydd yr ydym yn ei gael yn dod yn fwy eithafol, ac er na allwn bob amser rwystro llifogydd rhag digwydd, gallwn leihau'r siawns bod digwyddiad mor ddifrifol yn digwydd eto."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol