Dyddgu Hywel yn ymddeol o rygbi rhyngwladol

  • Cyhoeddwyd
Dyddgu HywelFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Dyddgu Hywel 31 o gapiau rhyngwladol dros gynfod o wyth mlynedd

Mae cefnwr Cymru, Dyddgu Hywel yn ymddeol o rygbi rhyngwladol er mwyn canolbwyntio ar ei gyrfa academaidd.

Dywedodd y darlithydd prifysgol 30 oed bod hi'n gynyddol anoddach i roi'r ymroddiad angenrheidiol i'r gêm yn ogystal ag i'w gwaith bob dydd.

"Mae gêm y merched yn tyfu bob blwyddyn, mae'r safon yn eithriadol ac mae hynny'n gofyn am fwy o ymroddiad," meddai.

"Er does gen i ddim ofn gwaith caled, mae fy swydd yn un sy'n gofyn llawer ac rwy'n gwneud PhD. Mae'n rhaid i mi ganolbwyntio mwy ar fy ngyrfa."

Enillodd 31 o gapiau rhyngwladol dros gyfnod o wyth mlynedd.

Bydd yn parhau i chwarae i glwb Gloucester-Hartpury.

Fe amlygodd ddiddordeb yn nisgyblaethau taflu'r byd athletau gan ddweud bod ganddi "sesiwn hyfforddi'r wythnos nesaf, felly pwy a ŵyr."

Bydd Cymru'n wynebu Sbaen, Clwb Rygbi Crawshay a'r Barbariaid yn yr hydref.