Dechrau trafodaethau am werthu rhan o'r Chwe Gwlad
- Cyhoeddwyd
Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi dechrau "cyfnod o drafodaethau" gyda chwmni ecwiti preifat CVC i werthu rhan o gystadleuaeth hynaf y byd rygbi.
Byddai cytundeb yn rhoi hwb ariannol i undeb pob gwlad ond byddai hefyd yn golygu colli rheolaeth o rannau o'r gystadleuaeth.
Mewn datganiad, dywedodd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: "Mae'r Chwe Gwlad yn credu bod buddsoddiad mewn rygbi yn angenrheidiol ar gyfer dyfodol ein gêm ac mae'r gred yma yn ganolog wrth ddechrau'r trafodaethau yma."
Ychwanegodd y datganiad bod pob undeb wedi cytuno i'r trafodaethau, ond na fyddai unrhyw sylw pellach am y tro.
Mae undebau'r Chwe Gwlad - Cymru, Iwerddon, Lloegr, Yr Alban, Ffrainc a'r Eidal - wedi bod mewn trafodaethau ers dros ddwy flynedd dros uno eu buddiannau masnachol.
Ym mis Mawrth, roedd adran chwaraeon y BBC yn credu bod cynnig CVC am gyfran o 30% o'r Chwe Gwlad.
Ond yn ôl The Times, byddai'r cynnig diweddaraf yn cymryd rheolaeth o 15% o ochr masnachol yr undebau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2019