Sir Fynwy'n treialu technoleg i daclo unigrwydd
- Cyhoeddwyd
Sir Fynwy yw'r ardal gyntaf yn y DU i brofi technoleg newydd i geisio taclo problem unigrwydd.
Bydd y dechnoleg yn cymharu arferion a gweithgareddau trigolion yn y sir a cheisio dod o hyd i ffyrdd cyfleus o'u cael i'r lleoliadau cywir.
Mae Cyngor Sir Fynwy'n credu y gall y dechnoleg leihau eu costau gofal cymdeithasol.
Bydd "map risg unigrwydd" digidol yn cael ei gynhyrchu er mwyn adnabod y bobl allai gael eu hynysu.
Pe bai'r dechnoleg yn llwyddo fe allai gael ei ymestyn i weddill y DU.
Yn ôl y rhai sy'n gyfrifol am y meddalwedd, fe fydd yn ei gwneud yn haws i'r rhai sy'n teimlo'n unig i adael eu cartrefi a chwrdd â phobl eraill.
Bydd y cwmni Box Clever Digital yn casglu arferion neu ddiddordebau trigolion, ac yn ceisio paru hynny gyda dosbarthiadau, gweithgareddau neu grwpiau sy'n cwrdd ar draws y sir.
'Deall yr unigolyn'
Dywedodd prif swyddog technoleg y cwmni, Dan Scobie, ei fod yn gobeithio apelio ar bobl o bob oed.
"Y peth cyntaf y byddwn yn ceisio gwneud yw deall yr unigolyn a deall beth yw eu hoff arferion... beth maen nhw'n hoffi gwneud," meddai.
"Fe fyddwn wedyn yn gallu cysylltu â nhw a gofyn a ydyn nhw'n ymwybodol fod dosbarth arlunio yn digwydd nos Iau ym Maerdy, ac a fyddech chi'n hoffi mynd?
"Gallwn wedyn fynd ymlaen i gynnig cludiant i'w cael nhw yno."
Fe fydd y cwmni'n gwneud hyn drwy adnabod seddi gwag mewn ceir, bysiau neu dacsis, a'u defnyddio i helpu pobl sydd â diddordeb.
Maen nhw hefyd yn gobeithio hybu cynlluniau rhannu ceir.
Bydd dau gwmni - Box Clever Digital a'r Behavioural Insights Team - yn derbyn hyd at £500,000 o gronfa GovTech Catalyst Llywodraeth y DU er mwyn cynnal profion ar eu syniadau.
Lleihau costau gofal
Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, aelod o gabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Datblygu Cymunedol, y gallai'r dechnoleg leihau costau gofal cymdeithasol yr awdurdod pe bai'n llwyddo.
"Mewn gwirionedd, mae hyn yn golygu ein bod yn debygol o weld lleihad yn ein costau yn y dyfodol, oherwydd mae'r math yma o beth yn mynd i atal rhai o'r problemau tymor hir," meddai.
"Rydym yn gobeithio y bydd y costau'n mynd i lawr, a hefyd y bydd llai o bwysau ar ein gwasanaethau yn y tymor hir."
'Amser yn mynd'
Un o drigolion y sir yw Dorothy Griggs. Mae'n 87 oed ac wedi bod yn teimlo'n unig ers i'w gŵr Alfred farw wedi 60 mlynedd o briodas.
Dywedodd: "Roeddem yn mynd am dro i bobman yn y car, ac rwy'n methu hynny.
"Rydych chi wedi colli'ch cymar ac yn eistedd yn meddwl fod amser yn mynd a bod angen gwneud rhywbeth i dreulio'r amser.
"Dydw i erioed wedi bod yn berson unig... dwi wastad wedi cael ffrindiau o 'nghwmpas. Ond roeddwn i'n teimlo'n unig ac wedi f'ynysu."
Yn 2016-17 fe wnaeth Arolwg Cenedlaethol Cymru ganfod bod 54% o bobl wedi teimlo'n unig ar brydiau, gyda phobl ifanc yn fwy tebygol o deimlo'n unig na'r henoed.
Dangosodd yr arolwg fod 20% o bobl 16-24 oed yn unig o gymharu â 10% o bobl dros 75 oed.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Awst 2019
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2018