Ymgyrch i godi £18,000 er mwyn achub sinema Tywyn

  • Cyhoeddwyd
Sinema y llusern hudFfynhonnell y llun, Sinema'r Llusern Hud
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffilmiau wedi bod yn cael eu dangos ar y safle ers dros 100 mlynedd

Mae ymgyrch ar droed i godi bron i £20,000 er mwyn achub sinema yng Ngwynedd sydd wedi bod yn dangos ffilmiau am dros 100 mlynedd.

Yn ôl llefarydd ar ran sinema'r Llusern Hud, Tywyn mae'n rhaid codi'r arian o fewn chwe mis neu bydd rhaid stopio dangos ffilmiau.

Wrth gynnal gwaith cynnal a chadw daeth staff i wybod bod angen newid un o brif rannau'r taflunydd - gwaith fyddai'n costio £18,000 i'w gwblhau.

Dywedodd Sara Waddington, aelod o staff y sinema, bod cyrraedd y targed ariannol yn "hanfodol" oherwydd pwysigrwydd y sinema fel hwb cymunedol "bywiog a deinamig".

Mae ffilmiau wedi bod yn cael eu dangos ar y safle ers dros 100 mlynedd, ac yn ôl sinema'r Llusern Hud, mae dros 20,000 o bobl yn ymweld â'r sinema wledig bob blwyddyn.

Yn ogystal â dangos ffilmiau hen a newydd, mae nifer o ddigwyddiadau cymunedol yn cael eu cynnal yno, gan gynnwys gwersi Cymraeg, boreau coffi, cyfarfodydd a phriodasau.

Ffynhonnell y llun, Sinema'r Llusern Hud
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd digwyddiad arbennig ei gynnal yn y sinema y llynedd er mwyn taclo unigrwydd dros y Nadolig

Ychwanegodd Ms Waddington: "Roedd e'n sioc enfawr pan glywsom ni bod angen darn newydd i'r taflunydd, a hynny ar ôl dim ond chwe blynedd o ddefnydd.

"Doedden ni ddim yn disgwyl i'r darn fod mor ddrud, ond o'r eiliad gyntaf fe ddaeth y staff at ei gilydd a dechrau meddwl am sut yn union gallwn ni fynd ati i godi'r arian.

"Doedd peidio trwsio'r taflunydd ddim yn opsiwn. Mae gennym ni ddyletswydd i ddangos ffilmiau i bobl Tywyn a'r ardal ehangach ac rydyn ni'n ffyddiog y bydd ein cynulleidfa yn barod i'n cefnogi ni."

Mae staff y sinema wedi lansio ymgyrch cyllido torfol ar-lein.

'Ymateb anhygoel'

Mae'r ymateb i'r ymgyrch hyd yma wedi bod yn "anhygoel," yn ôl Ms Waddington.

"Bore dydd Llun fe ddaeth holl staff y Llusern Hud at ei gilydd i wneud ffyliaid o'u hunain wrth recordio fideo i hyrwyddo'r ymgyrch. Fe aeth y fideo hwnnw ar y we, ac erbyn y noson ganlynol roedden ni wedi codi dros £3,000.

"Mae'r holl negeseuon a'r rhoddion sydd wedi ein cyrraedd yn ein gwneud ni'n hynod obeithiol o gyrraedd ein targed."

Mae staff y sinema yn dweud eu bod nhw'n bwriadu cynnal cyfres o ddigwyddiadau ym mis Medi er mwyn helpu gyda'r ymgyrch.