Newid shifftiau nyrsys y gogledd yn 'peryglu ewyllys da'

  • Cyhoeddwyd
nyrs

Mae angen i Lywodraeth Cymru ymyrryd i atal newidiadau i rota nyrsys yn y gogledd, yn ôl un o'r gwrthbleidiau.

Yn ôl Plaid Cymru mae'r diwygiadau gyfystyr â gorfodi nyrsys i "weithio shifft ychwanegol yn ddi-dâl".

Ond cyn trafodaeth ar y mater yn y Senedd ddydd Mercher, dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr bod angen "cysoni" patrymau gwaith.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn disgwyl i'r bwrdd iechyd ystyried ymateb staff a'u hundebau wrth ddod i unrhyw benderfyniad ar amodau gwaith.

Yn ôl cynigion y bwrdd iechyd byddai nyrsys yn cael hanner awr ychwanegol o doriad yn ystod pob shifft - ond byddai'r toriad hwnnw'n ddi-dâl.

Mae hynny, yn ôl Plaid Cymru, gyfystyr â shifft gyfan ddi-dâl bob mis.

Galw am ymyrraeth

"Nid yw hyn yn dderbyniol pan fod nyrsys eisoes yn gweithio oriau maith dan bwysau, ac un o'r rhesymau pennaf am hyn yw bod un swydd o bob 10 yn wag yn y bwrdd iechyd," meddai Llŷr Gruffydd, AC y blaid dros Ogledd Cymru.

Dywedodd y byddai'r bwrdd yn "colli ewyllys da nyrsys" a bod un nyrs wedi dweud wrtho mai dyma'r "hoelen olaf yn yr arch" i'r proffesiwn.

Galwodd ar i Lywodraeth Cymru ymyrryd "os bydd y bwrdd iechyd yn ceisio gwthio'r newidiadau hyn drwodd".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Llŷr Gruffydd bod un nyrs wedi dweud wrtho mai dyma'r "hoelen olaf yn yr arch" i'r proffesiwn

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae disgwyl i fyrddau iechyd gysylltu ac ymgynghori gyda staff a'u hundebau llafur ar unrhyw newidiadau sy'n eu heffeithio.

"Yn yr achos penodol yma mae'r cyfnod ymgynghorol yn mynd rhagddo ac rydym yn disgwyl i'r bwrdd iechyd ystyried ymateb staff a'u hunedau yn llawn, cyn gwneud unrhyw benderfyniad."

Mae undeb Unite wedi bod yn llafar eu gwrthwynebiad i'r newidiadau, gan brotestio tu allan i un o gyfarfodydd y bwrdd iechyd yng Nghonwy yn gynharach ym mis Medi.

Dywedodd Jo Goodchild, swyddog rhanbarthol yr undeb, y byddai'r drefn newydd yn bygwth y cydbwysedd rhwng bywyd cartref a gyrfa'r staff.

"Os nad ydyn nhw'n gallu cymryd hanner awr o doriad di-dâl ar hyn o bryd achos gwaith, yna bron yn sicr fyddan nhw ddim yn gallu cymryd awr - dyna sy'n eu poeni nhw," meddai.

'Sicrhau seibiant i staff'

Ond dywedodd y bwrdd iechyd y byddai staff yn elwa o'r newidiadau.

Yn ôl Trevor Hubbard, dirprwy gyfarwyddwr gweithredol nyrsio y bwrdd iechyd, mae gormod o staff yn methu eu hamser seibiant.

"Mae sicrhau bod staff yn cael seibiant digonol, yn enwedig pan maen nhw'n gweithio patrymau shifft hirach, yn allweddol i'n cynnig i gysoni patrymau shifft," meddai.

"Mae'r cynigion hefyd yn rhoi cyfle inni leihau ein dibyniaeth ar staff asiantaethau, sy'n fanteisiol i ofal cleifion a diogelwch staff yn ogystal â mantais ariannol."

Daeth ymgynghoriad ffurfiol ar gynigion y bwrdd iechyd i ben ar 17 Medi, ac maen nhw'n dweud y byddan nhw'n ystyried yr adborth cyn gweithredu.