Alaw'n ‘cymryd un cam ar y tro’ wedi damwain erchyll
- Cyhoeddwyd
Yn Hydref 2018, cafodd Alaw Llwyd Owen ddamwain car difrifol, a'i gadawodd gydag anafiadau sydd wedi newid ei bywyd.
Er hyn, mae hi dal yn ystyried ei hun yn 'lwcus' o'r holl ofal dderbyniodd hi yn Ysbyty Aintree, Lerpwl, ac oherwydd hynny, mae hi'n ceisio codi arian i Uned Gofal Dwys yr ysbyty am ei helpu i wella wedi'r ddamwain.
Siaradodd Alaw gyda Shân Cothi ar raglen Bore Cothi, BBC Radio Cymru am sut effaith gafodd y ddamwain arni a sut mae hi'n parhau i edrych ar ochr bositif bywyd.
"Mae'r flwyddyn wedi hedfan - alla i ddim credu'r peth.
"O'n i'n gweithio yn Glan Llyn fel trefnydd cynorthwyol i Eisteddfod yr Urdd ac yn mwynhau'r swydd, ac yn teithio adra nôl i nhŷ yn Ninbych.
"Digwyddodd rhywbeth 'sa ti fyth yn ei ddychmygu 'sa'n digwydd i ti - daeth car i nghwfr i ac i mewn i fi.
"Dydw i ddim yn cofio lot o'r digwyddiad na'r tair wythnos i fis wedyn. Mae'r cof a'r meddwl yn dy warchod di yn reit dda, 'swn i'n ddychmygu."
Anafiadau difrifol
Treuliodd Alaw'r mis nesaf yn Uned Gofal Dwys Ysbyty Aintree.
Roedd ei dwy droed wedi torri, ynghyd â'i garddwrn chwith a'i phelfis. Cafodd anaf i'w phen, collodd ei golwg a'i llais am gyfnod, ac mae ganddi bellach fag colostomy. Y gobaith yw y bydd modd iddi cael llawdriniaeth arall i gael gwared ar hwnnw yn y dyfodol.
Fodd bynnag, mae hi'n ystyried ei hun yn ffodus iawn, er mor ddifrifol oedd y sefyllfa a'i hanafiadau, oherwydd y gofal arbennig gafodd yn syth wedi'r ddamwain.
"O'n i'n lwcus o'r funud cynta' ddigwyddodd o, efo'r paramedics, yr ambiwlans awyr yn fy nghario i Uned Gofal Dwys yn Aintree - 'swn i ddim 'di gallu gofyn am ofal gwell yn fanno, roedden nhw'n eithriadol.
"Dwi 'di cael agoriad llygad i pa mor lwcus ydyn ni o ofal yr NHS ac arbenigedd y doctoriaid."
Mae hi hefyd yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth gafodd hi gan ei theulu a ffrindiau - rhoddodd pawb gymaint o gefnogaeth iddi, meddai.
"O'r dechrau un, mae'r teulu wedi bod yn eithriadol. Law yn llaw â hynny hefyd, ffrindia' a chymuned o fewn dy filltir sgwâr. Mae o'n pwysleisio pwysigrwydd, a dy werthfawrogiad di o fagwraeth a lle ti wedi cael dy eni a dy fagu.
"Mae pawb o'r dechrau un wedi bod yn anhygoel, yn dod â chacennau a bwyd, 'sgwennu cardiau... pethau bach... pethau mor sylfaenol.
"Pethau fel y ffaith fod y Steddfod Genedlaethol ar ein stepen drws ni - 'nath hwnnw roi rhyw fath o nod a rhywbeth i anelu ato fo. Dwi'n meddwl ei fod o yn pwysleisio pwysigrwydd a nerth cymuned."
Rhedeg yn Aintree i godi arian
Ddechrau fis Hydref, bydd criw o gymuned ffyddlon Alaw o deulu a ffrindiau yn ei helpu i godi arian i'r Uned Dwys a roddodd driniaeth iddi drwy redeg o amgylch cwrs rasio ceffylau Aintree. Mae Alaw eisiau codi gymaint o arian â sy'n bosib i'r ward a'i helpodd gymaint yn dilyn ei damwain ddifrifol.
"'Nath Aintree chwarae rhan fawr, er mod i'n anymwybodol am y cyfnod cynta' 'na, a ddim yn cofio fawr ddim o'n amser i yn Critical Care.
"Oedden nhw wedi d'eud wrth fy rhieni i o'r dechrau un 'peidiwch ag edrych yn ôl a pheidwch ag edrych ymlaen, jest cymryd un cam ar y tro, cymryd un dydd fel ma'n dod' - ma' hwnnw wedi bod yn wers sydd wedi nghario i drwy'r flwyddyn ddiwetha' 'ma.
"Fedri di ddim newid dim byd sydd wedi digwydd i ti, felly does yna ddim pwrpas defnyddio egni i feddwl am beth sydd wedi digwydd, ac i ddefnyddio'r egni 'na i gryfhau ac i gael dy hun i'r cam nesa'.
"Mae pobl yn d'eud yn aml iawn 'byw i'r foment'. Mae 'na ddywediadau ti'n eu defnyddio yng nghwrs bywyd beth bynnag, ond mae'u profi nhw o'r olwg gynta' wedi gwirioneddol 'neud i mi 'neud hynny."
Hefyd o ddiddordeb: