Cyhuddo'r comisiynydd safonau o fod â 'safonau dwbl'

  • Cyhoeddwyd
Sir Roderick Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Syr Roderick Evans wedi bod yn gomisiynydd safonau ers 2017

Rhybudd: Mae iaith gref yn yr erthygl hon.

Mae'r dyn sy'n goruchwylio cod ymddygiad Aelodau'r Cynulliad wedi'i gyhuddo o "safonau dwbl" gan AC Llafur.

Dywedodd AC Torfaen, Lynne Neagle bod penderfyniad y comisiynydd safonau, Syr Roderick Evans fod Leanne Wood wedi torri'r cod yn un "syfrdanol".

Roedd cyn-arweinydd Plaid Cymru wedi defnyddio gair rheg i feirniadu blogiwr ar Twitter.

Fe wnaeth Ms Neagle gyferbynnu'r penderfyniad gyda phenderfyniad i "beidio ceryddu AC gwrywaidd oedd wedi gwneud fideo sarhaus o gyd-weithiwr benywaidd".

'Sefyll gyda'n gilydd'

Fe gyhoeddodd Ms Wood y neges mewn ymateb i feirniadaeth gan Royston Jones, sy'n blogio dan yr enw Jac o' the North, ynglŷn â'r AC Delyth Jewell.

Roedd Ms Jewell newydd ei dewis i olynu'r diweddar Steffan Lewis fel AC Dwyrain De Cymru, ac roedd sylw Mr Jones yn cyfeirio at ei diddordebau.

Yn ôl y pwyllgor roedd iaith Ms Wood yn ei hymateb yn "anaddas", ond mae hi'n dweud nad yw'n difaru ei defnydd o eiriau.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan LeanneWood 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan LeanneWood 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Dywedodd Ms Neagle: "Mae gwleidyddion benywaidd yn wynebu sarhad ar-lein pob dydd - fe wnaeth Leanne Wood ymateb mewn ffordd uniongyrchol a dynol i ymosodiad ar gyd-weithiwr benywaidd.

"Rwy'n meddwl, fel cynrychiolwyr dros ferched, ei bod yn iawn i ni sefyll gyda'n gilydd yn drawsbleidiol yn erbyn y sarhad yma.

Yn dilyn ymchwiliad Syr Roderick fe gytunodd y pwyllgor safonau gyda'i gasgliadau fod y trydar yn groes i'r cod safonau, gan argymell ceryddu Ms Wood - penderfyniad fydd angen cydsyniad y Cynulliad.

Mae Plaid Cymru wedi dweud ei fod yn cefnogi Ms Wood, ac y bydd yn gwrthwynebu'r penderfyniad.

Disgrifiad o’r llun,

Lynne Neagle yw cadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad

Dywedodd llefarydd ar ran y comisiynydd safonau mai ei rôl yw "derbyn am ymchwilio i gwynion yn erbyn Aelodau'r Cynulliad, ac yna adrodd i'r Pwyllgor Safonau".

"Fe wnaeth y pwyllgor trawsbleidiol, sy'n cynnwys aelod o grŵp Plaid Cymru, ystyried adroddiad y comisiynydd a phenderfynu bod y cod wedi'i dorri," meddai.

'Term di-chwaeth'

Ym mis Medi'r llynedd fe wnaeth Syr Roderick benderfynu bod fideo gan AC UKIP, Gareth Bennett, oedd yn portreadu AC Llafur, Joyce Watson fel gweinydd ddim yn rhywiaethol.

Cafodd Mr Bennett ei wahardd o'r Senedd am wythnos yn y pendraw wedi i'r mater gael ei basio 'mlaen i unigolyn arall.

Yn y cyfamser, mae AC Llafur Caerffili, Hefin David wedi derbyn ei fod wedi torri'r cod ymddygiad wedi iddo ddefnyddio "term di-chwaeth" i gyfeirio at gynghorydd Plaid Cymru ar-lein.

Roedd wedi galw Vaughan Williams yn "goc oen" ac yn "utter knob".

Mae Dr David wedi ymddiheuro, ac fe benderfynodd y Pwyllgor Safonau bod hyn yn ddigonol.