Fideo dadleuol gan AC UKIP yn 'weithred sarhaus'

  • Cyhoeddwyd
Joyce Watson a Gareth Bennett
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Gareth Bennett gyhoeddi'r fideo am Joyce Watson ar YouTube y llynedd

Fe wnaeth Arweinydd UKIP yn y Cynulliad gwblhau gweithred sarhaus a diraddiol drwy osod delwedd o wyneb AC arall ar gorff barforwyn mewn ffrog â gwddf isel mewn fideo ar wefan Youtube, yn ôl ymchwiliad.

Fe wnaeth Gareth Bennett dorri rheolau'r Cynulliad drwy gyhoeddi'r fideo, yn ôl y casgliadau sydd wedi dod i law BBC Cymru.

Cafodd yr ymchwiliad ei gynnal wedi ffrae dros benderfyniad blaenorol a ddaeth i'r casgliad nad oedd y clip yn rhywiaethol.

Dywedodd llefarydd ar ran Mr Bennett fod elfen "faleisus" i'r ffaith bod casgliadau'r ymchwiliad wedi'u rhyddhau.

'Cŵn gwyllt'

Fe gyhoeddodd Mr Bennett y fideo ar YouTube ym mis Mai y llynedd, gan ymosod ar AC Llafur, Joyce Watson.

Roedd wedi gwneud hynny am iddi gyfeirio at ACau UKIP fel "cŵn gwyllt" yn ystod dadl yn y Senedd y flwyddyn flaenorol.

Yn y fideo, fe wnaeth Mr Bennett sylwadau bychanol am Ms Watson, gan ddweud ei bod yn arfer rhedeg tafarn "ond buasech byth yn dyfalu hynny wrth edrych arni".

Mae'r fideo, a gafodd ei greu cyn i Mr Bennett ddod yn arweinydd grŵp y blaid, yn dweud: "Dyw hi ddim yn edrych fel y person mwyaf bywiog yn y parti.

"'Dwi ddim yn siŵr y buaswn yn hoffi piciad fewn am un sydyn yn fy nhafarn lleol os mai hi welwn i'n tynnu'r peintiau tu ôl y bar."

Roedd y geiriau wedi'u cynnwys gyda llun o farforwyn mewn top â gwddf isel, a wyneb Ms Watson wedi'i osod arni.

Er gwaethaf cwyn gan Ms Watson i Gomisiynydd Safonau'r Cynulliad, Syr Roderick Evans, fe benderfynodd yntau nad oedd y fideo yn rhywiaethol.

Yn dilyn cwynion o'r newydd a phwysau gan ACau Llafur, fe benderfynodd Syr Roderick ailagor yr achos a chymryd cam yn ôl.

Comisiynydd Safonau Cynulliad Gogledd Iwerddon, Douglas Bain wnaeth cwblhau'r gwaith.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth Syr Roderick Evans i'r casgliad nad oedd y fideo yn rywiaethol

Casgliadau'r ymchwiliad:

  • Roedd fideo yn weithred sarhaus bersonol direswm, ac yn israddio Ms Watson a menywod a oedd yn ymwybodol o'r fideo.

  • Byddai cynnwys y fideo yn annog merched i beidio ag ymgeisio am swyddi cyhoeddus.

  • Nid yw'n derbyn nad oedd Mr Bennett yn ymwybodol o arwyddocâd rhywiol posib y cymal "piciad allan am un sydyn".

  • Mae'n dyfarnu bod Mr Bennett wedi torri'r côd ymddygiad a'r polisi gwrth-aflonyddu a pharch.

Fe wnaeth Mr Bennett ryddhau nodyn o ymddiheuriad i'r wasg am "awgrymu yn anghywir" fod Ms Watson wedi gwastraffu arian cyhoeddus.

Dadl Mr Bennett oedd bod y ddelwedd o'r weithwraig dafarn i fod yn ddychan ac fe wadodd fod y fideo wedi cyfeirio at edrychiad Ms Bennett, a'i fod yn targedu'r AC Llafur o ganlyniad i'w gelyniaeth tuag at UKIP.

Nid yw casgliadau Mr Bain wedi eu cyflwyno eto i Bwyllgor Safonau'r Cynulliad, a allai penderfynu cosbi Mr Bennett maes o law.

Mae eu pwerau'n cynnwys gwahardd yr AC am gyfnod amhenodol yn ddi-dâl.

Apelio

Mae gan Mr Bennett hawl i ddatgan ei achos o flaen y pwyllgor y mae'n aelod ohono, ac i apelio yn erbyn penderfyniad y pwyllgor.

Dyma fydd yr ail dro o fewn blwyddyn i Mr Bennett wynebu adroddiad beirniadol gan y Comisiynydd Safonau.

Fe gytunodd yr AC i gymryd gostyngiad yn ei gyflog o £2,500 dros wariant arian y Cynulliad ar swyddfa damp nad oedd byth yn ei ddefnyddio.

Disgrifiad o’r llun,

Douglas Bain sydd wedi cwblhau'r ymchwiliad i safonau ymddygiad Gareth Bennett

Dywedodd llefarydd ar ran Mr Bennett: "Nid ydym yn gwneud unrhyw sylw ar bethau sydd wedi'u rhyddhau gyda chymhelliad gwleidyddol a maleisus.

"Mae datgeliadau o'r fath yn tanseilio hygrededd a gonestrwydd y broses gwynion.

Dywedodd llefarydd ar ran Mr Bain: "Mae'n hanfodol fod cwynion i'r comisiynydd yn cael eu hymchwilio yn hollol gyfrinachol, a bod casgliadau ymchwiliadau'n aros yn gyfrinachol nes i'r pwyllgor safonau gwblhau ystyried y mater.

"Er mwyn parchu'r cyfrinachedd hwnnw, nid yw'r comisiynydd safonau dros dro yn gwneud unrhyw sylw ar ddogfennau sydd wedi'u rhyddhau heb awdurdod."

Doedd Joyce Watson ddim am wneud sylw ar y mater.