Gwefan i adnewyddu pas bws yn dal wedi torri

  • Cyhoeddwyd
Bws ArrivaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan ddelwyr pas bws tan 31 Rhagfyr i wneud cais ar gyfer pas newydd electroneg

Mae gwefan y bydd hyd at 730,000 o bobl angen ei defnyddio i adnewyddu eu pas bws yn dal wedi torri, 10 diwrnod wedi iddi fynd oddi ar lein oherwydd y galw mawr amdani.

Mae gan ddelwyr pas bws tan 31 Rhagfyr i wneud cais ar-lein ar gyfer pas newydd electroneg.

Ond wedi i'r cynllun adnewyddu gael ei lansio ar 11 Medi, fe wnaeth nifer yr ymweliadau â'r wefan achosi iddi dorri.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn gweithio gydag Age Cymru ar wefan wedi'i chynllunio o'r newydd, ac maen nhw'n gobeithio ei rhoi ar-lein yr wythnos nesaf.

Beirniadaeth o'r system

Mae'r cwmni eisiau i bawb droi at bas bws electroneg fydd yn gallu cael ei ddefnyddio ledled Cymru, ond yn mynnu nad oes brys gan na fydd y system newydd yn dechrau nes 1 Ionawr 2020.

Mae'r broses wedi wynebu beirniadaeth ers tro, gydag Age Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn awgrymu bod nifer o'r rheiny sydd â phas bws ddim yn gallu defnyddio cyfrifiadur.

O ganlyniad, yr wythnos ddiwethaf cafodd miloedd o geisiadau papur eu gyrru i gynghorau er mwyn eu dosbarthu mewn llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol eraill.

Dywedodd y Comisiynydd Pobl Hŷn, Helena Herklots y bydd gwneud cais ar-lein "yn achosi pryder i bobl hŷn sydd ddim yn defnyddio'r we", gan annog awdurdodau lleol i helpu pobl i lenwi'r ceisiadau papur.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Trafnidiaeth Cymru eisiau i bawb droi at bas bws electroneg fydd yn gallu cael ei ddefnyddio ledled Cymru

Dywedodd prif weithredwr Trafnidiaeth Cymru, James Price: "O ganlyniad i'r pryderon ry'n ni wedi'u clywed gan bobl hŷn yr wythnos yma rydyn ni'n gwneud yn siŵr bod copïau ar gael gan gynghorau lleol, llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol, ac mae modd lawrlwytho copi o'n gwefan."

Fe wnaeth y cwmni ddiolch i sefydliadau cymunedol sydd wedi bod yn darparu cefnogaeth i unrhyw un sy'n poeni am y newid, ac i bobl am fod yn amyneddgar tra bod capasiti'r wefan yn cael ei gynyddu.

Ychwanegodd Victoria Lloyd o Age Cymru: "Rydyn ni'n annog pobl hŷn i beidio panicio am adnewyddu eu pas.

"Dydy'r terfyn ddim nes 31 Rhagfyr felly mae digon o amser i wneud cais."