Llywodraeth Cymru'n bwriadu codi oedran pas bws di-dâl

  • Cyhoeddwyd
Safle bws
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd y ddeddfwriaeth newydd yn cael ei chyflwyno'r flwyddyn nesaf

Bydd yr oedran y bydd pobl yn derbyn pas bws er mwyn teithio'n ddi-dâl yn codi o 60 oed i oedran y pensiwn gwladol, yn ôl cynlluniau newydd gan Lywodraeth Cymru.

Pryder gweinidogion ym Mae Caerdydd yw bod y drefn bresennol yn mynd yn rhy ddrud i'w chynnal, gyda disgwyl y bydd 880,000 yn hawlio'r pas erbyn 2021.

Fe wnaeth y gweinidog trafnidiaeth Ken Skates gadarnhau y bydd y cynllun, sydd i'w gyflwyno yn raddol, yn rhan o ddeddfwriaeth newydd.

Ond dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ei bod yn poeni am effaith y penderfyniad ar rai o'r bobl hŷn mwyaf bregus.

Fe fydd oedran y pensiwn gwladol yn codi o 65 i 67 erbyn 2028.

Cafodd y cynllun pas ar gyfer teithio di-dâl i bensiynwyr ei gyflwyno yn 2002.

Yn ôl arolwg diweddar mae 47% o'r holl siwrneiau bysus yn cael eu gwneud gan ddalwyr y pasys.

Roedd tua 730,000 o'r pasiau ar gael i'w defnyddio yn 2018.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y gweinidog trafnidiaeth y bydd y newidiadau yn cael eu cyflwyno'n raddol

Mae cwmnïau bysus yn derbyn ffi sy'n cyfateb i werth tocyn oedolyn am bob taith. Yn 2016 roedd amcangyfrif fod y cynllun yn costio tua £840m.

Yn ôl papur gwyn y llywodraeth mae angen "rheoli'r gost".

Roedd y papur gwyn hefyd yn dweud nad oedd y cynllun o ad-dalu cwmnïau yn rhoi ysgogiad iddyn nhw gadw prisiau yn isel.

Fe fydd y ddeddfwriaeth newydd yn mynd gerbron y Cynulliad y flwyddyn nesaf.

'Effaith sylweddol'

Dywedodd y Comisiynydd Pobl Hŷn, Helena Herklots, er bod y manylion yn brin ar hyn o bryd ei bod hi'n "bryderus y gallai'r newidiadau gael effaith sylweddol ar nifer o bobl hŷn".

"Fe fydd cynyddu'r oedran y mae pobl yn gallu cael pas, heb os, yn effeithio rhai o'r bobl hŷn mwyaf bregus yng Nghymru, fel y rhai sy'n byw mewn tlodi, pobl sydd wedi gorfod rhoi'r gorau i waith er mwyn gofalu am deulu, neu rai sydd ag afiechyd tymor hir," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn parhau yn ffyddlon i egwyddorion y cynllun sydd wedi bod mewn grym yng Nghymru am fwy na degawd - darparu pobl hŷn, pobl anabl a chyn-aelodau'r lluoedd arfog gyda hawl i siwrneiau di-dâl ar wasanaethau bysys yng Nghymru.

"Ni fydd y newidiadau yn effeithio ar hawliau dalwyr pasiau presennol."