Plaid Brexit â 'chyfle enfawr' mewn etholiad yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae James Wells yn un o ddau Aelod Seneddol Ewropeaidd sydd gan Blaid Brexit
Mae gan Blaid Brexit "gyfle enfawr" i ennill seddi yng Nghymru mewn etholiad cyffredinol, yn ôl un o'i Aelodau Seneddol Ewropeaidd (ASEau).
Dywedodd James Wells, un o ddau ASE Cymreig y blaid, bod "pobl wedi cael llond bol ar Lafur".
Ychwanegodd y byddai Boris Johnson hefyd mewn "helbul difrifol" pe bai'n ceisio atgyfodi cytundeb Brexit Theresa May "gydag ychydig o newidiadau".
Roedd yn siarad cyn rali Plaid Brexit yng Nghasnewydd ddydd Sadwrn.
Fe wnaeth y blaid dod ar y brig yn y ddinas yn etholiadau Senedd Ewrop ym mis Mai, gan ennill 19 o'r 22 ardal cyngor yng Nghymru.
Cyn y bleidlais, ymunodd pedwar cyn-AC UKIP â Phlaid Brexit i ffurfio grŵp yn y Senedd ym Mae Caerdydd.
Roedd arolygon barn ar y pryd yn awgrymu bod Plaid Brexit yn ennill tipyn o gefnogaeth.
Ond erbyn hyn yr awgrym yw bod y blaid wedi disgyn yn ôl ers i Mr Johnson ddod yn brif weinidog.
Mae'r prif weinidog wedi dweud ei fod am adael yr Undeb Ewropeaidd - yn ddelfrydol gyda chytundeb - erbyn diwedd y cyfnod trafod presennol ar gyfer Brexit ar 31 Hydref.
Mae Mr Johnson wedi annog yr UE i gael gwared ar y 'backstop' sy'n rhan o gytundeb ymadael ei ragflaenydd, Theresa May.
Polisi yswiriant er mwyn atal ffin galed ar ynys Iwerddon yw'r 'backstop'.

ASEau Plaid Brexit yn troi eu cefnau yn ystod anthem yr UE yn y Senedd Ewropeaidd yn gynharach eleni
Dywedodd yr ASE Mr Wells, sydd i fod i siarad yn rali Plaid Brexit yng Nghasnewydd: "Ni fydd cyflawni Brexit yn ddigonol, mae'r fath o Brexit sy'n cael ei gyflawni yn bwysig.
"Oherwydd bod cymaint o bethau yng nghytundeb ymadael Theresa May yn ei wneud yn wenwynig, hyd yn oed os ydych chi'n cael gwared ar y 'backstop'.
"Felly, rwy'n credu pe bai Boris yn dod â chytundeb ymadael Theresa May yn ôl gydag ychydig o newidiadau... nid wyf yn credu y byddai hynny'n ddigonol i gadw eu cefnogwyr, rwy'n credu y byddan nhw mewn trafferth ddifrifol oherwydd byddai pobl yn gweld hynny fel brad."
Mae Mr Wells yn rhagweld cynnydd yng nghefnogaeth Plaid Brexit a fyddai'n ei gwneud hi'n "amhosib i'r Torïaid gael mwyafrif yn y Senedd" os bydd y DU yn gadael yr UE â chytundeb.
'Ddim yn hoffi Corbyn'
Mae'r Ceidwadwyr wedi gwrthod cynnig arweinydd Plaid Brexit, Nigel Farage, o gytundeb etholiadol.
Ar y syniad o gytundeb Torïaidd-Plaid Brexit, dywedodd Mr Wells: "Y cyfan rydyn ni'n ei gynnig i'r Torïaid yw ffordd i gael Senedd sy'n gefnogol o Brexit - nid ydym yn awgrymu y byddwn yn ffurfio clymblaid gyda nhw."
Ychwanegodd fod y mwyafrif o'r seddi y byddai ei blaid yn eu targedu mewn etholiad cyffredinol yn rhai sy'n cael eu dal gan Lafur.
Wrth ofyn sut roedd hynny'n wahanol i honiadau UKIP yn y gorffennol ei fod yn targedu seddi Llafur yng Nghymru, dywedodd Mr Wells: "Rwy'n credu bod cymharu'r sefyllfa yn ôl yn nyddiau UKIP i'r man lle'r ydym ni nawr gyda Phlaid Brexit yn gamarweiniol a byddai hynny wir yn tanamcangyfrif y sefyllfa bresennol.
"Mae yna gyfle enfawr i ni yng Nghymru."
Dywedodd y cyn-was sifil fod "pobl wedi cael llond bol ar Lafur yng Nghymru" oherwydd bod ei safiad ar Brexit yn "frad llwyr" ac nad ydyn nhw "yn hoffi [arweinydd Llafur] Jeremy Corbyn".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Medi 2019