Y Gynghrair Genedlaethol: Aldershot 1-0 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Bobby GrantFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddylai Bobby Grant fod wedi rhoi Wrecsam ar y blaen yn hwyr yn y gêm, ond fe fethodd y targed o chwe llath

Mae Wrecsam wedi disgyn i'r ugeinfed safle yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol ar ôl colli oddi-cartref i Aldershot.

Yn dilyn hanner cyntaf di-sgôr fe ddylai Wrecsam fod wedi sgorio ond fe ergydiodd Bobby Grant heibio'r postyn o chwe llath.

Gyda llai na munud o'r gêm yn weddill aeth y tîm cartref ar y blaen diolch i ergyd Harrison Panayiotou.

Dim ond dwy gêm allan o 11 mae Wrecsam wedi llwyddo i ennill yn y gynghrair y tymor hwn, gyda phum gêm gyfartal a phedair colled hyd yma.