Gwasanaeth i gofio 85 mlynedd ers trychineb Gresffordd
- Cyhoeddwyd
Bydd gwasanaeth yn cael ei gynnal ddydd Sul I gofio 85 mlynedd ers trychineb glofaol yng Ngresffordd ble cafodd 266 o ddynion eu lladd.
Fe ffrwydrodd pwll glo Gresffordd ar 22 Medi 1934 gan adael 200 o wragedd gweddw a channoedd o blant heb dad.
Bydd y gwasanaeth blynyddol yn cael ei gynnal ym Mhandy am 11:00.
Mae cymdeithas Ffrindiau Trychineb Pwll Glo Gresffordd wedi cadarnhau bydd plant ysgol leol ymysg y rhai fydd y n cymryd rhan yn y gwasanaeth.
Dywedodd Cadeirydd y grŵp, Alun Jones fod y glowyr wedi "rhoi eu bywydau a'i hiechyd i'r diwydiant.
"Dylai plant ysgol fod yn ymwybodol o'u treftadaeth," meddai.
Yn dilyn y trychineb roedd bron pob cymuned yn sir Wrecsam wedi colli aelod o'u teulu.
Dim ond chwe glöwr lwyddodd i ddianc o'r tân, ac ni chafodd dros 253 o gyrff eu darganfod.
Ychwanegodd Mr Jones: "Ni ddyliwn byth anghofio'r rhai a gollodd eu bywydau'r diwrnod hwnnw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Medi 2014
- Cyhoeddwyd22 Medi 2016
- Cyhoeddwyd24 Mai 2012