Cyhoeddi £500,000 tuag at lansio rocedi o Eryri

  • Cyhoeddwyd
Maes glanio LlanbedrFfynhonnell y llun, Geograph/Roger Brooks
Disgrifiad o’r llun,

Roedd maes glanio Llanbedr yn cyflogi 130 o bobl cyn iddo gau yn 2004

Mae gweld rocedi'n lansio o Eryri gam yn nes wedi i Asiantaeth Ofod y DU gyhoeddi £500,000 o gyllid ar gyfer sefydlu canolfan ofod yno.

Bydd yr arian yn mynd tuag at ganolfan ym maes glanio Llanbedr ar gyfer ymchwil a lansio lloerennau a dronau.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn rhoi £135,000 tuag at gynllun i brofi dronau, awyrennau trydan ac awyrennau gofod ar y safle.

Fe wnaeth adroddiad i Gyngor Gwynedd yn 2017 amcangyfrif y byddai'n costio £25m i droi'r maes glanio yn ganolfan awyrofod.

Lansio'n llorweddol

Yn 2018 cafodd Sutherland yn Yr Alban ei ddewis yn hytrach na'r safle yng Nghymru i fod yn faes rocedi cyntaf y DU i lansio rocedi yn syth am i fyny.

Ar y pryd fe wnaeth Asiantaeth Ofod y DU gyhoeddi nawdd datblygu £2m ar gyfer safleoedd eraill, gan gynnwys i gyn-safle'r Awyrlu yn Llanbedr er mwyn lansio rocedi'n llorweddol.

Mae cwmni B2Space hefyd wedi derbyn £100,000 gan Lywodraeth Cymru er mwyn sefydlu safle yng Nghasnewydd a defnyddio maes glanio Llanbedr i ddatblygu balwnau er mwyn lansio lloerennau.

Daw'r cyhoeddiadau wrth i gynhadledd ofod y DU gael ei chynnal dros dri diwrnod yng Nghasnewydd.

MochrasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder wedi bod yn lleol ar yr effaith fyddai canolfan ofod yn ei gael ar yr ardal gyfagos

Mae rhwystredigaeth wedi bod gan rai yn y diwydiant, sy'n dweud bod rhaglen ofod Llywodraeth y DU yn symud yn rhy araf.

Ond yng Ngwynedd mae pryder wedi bod yn lleol am yr effaith y byddai datblygu'r safle yn Llanbedr yn ei gael ar yr ardal wledig.

Yn 2015 fe wnaeth y diwydiant awyrofod a Llywodraeth Cymru osod targed i gynhyrchu 5% o sector ofod y DU erbyn 2030 - sydd gwerth £2bn y flwyddyn.

Mae'r diwydiant wedi gweld hwb yng Nghymru'n ddiweddar, gyda chynnydd 34% yn nifer y cwmnïau o'r sector sydd wedi'u lleoli yma.

Mae 47 o gwmnïau awyrofod yn gweithio yng Nghymru bellach, gan gyflogi 517 o bobl.