Seiclwr wedi marw fis a hanner wedi gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau fod seiclwr gafodd ei anafu mewn gwrthdrawiad yn Sir Fynwy ddechrau mis Awst wedi marw o'i anafiadau.
Cafodd Alex Roberts, 47 oed, ei ganfod ar ochr y B4245 rhwng Rogiet a Gwndy toc wedi 19:00 ar ddydd Llun, 5 Awst.
Fe gafodd ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent a bu yno nes ei farwolaeth ar 21 Medi.
Cafodd dyn 33 oed o Gil-y-coed ei arestio yn dilyn y digwyddiad ar amheuaeth o yrru'n beryglus a pheidio stopio yn dilyn gwrthdrawiad.
Fe gafodd dyn 37 oed o Borthsgiwed hefyd ei arestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol trwy yrru'n beryglus a pheidio stopio yn dilyn gwrthdrawiad.
Mae'r ddau wedi cael eu rhyddhau dan ymchwiliad.
Mae'r heddlu yn parhau i apelio ar unrhyw yrwyr oedd yn yr ardal ar y pryd, neu sydd o bosib â fideo dashcam o'r digwyddiad, i gysylltu â nhw.