Cyhoeddi carfan merched Cymru i wynebu Belarws
- Cyhoeddwyd
Mae rheolwr Cymru, Jayne Ludlow wedi cyhoeddi carfan o 20 chwaraewr i wynebu Belarws yn Barysaw fis nesaf.
Mae Ludlow yn croesawu Rachel Rowe a Nadia Lawrence yn ôl i'r garfan ar gyfer gêm ragbrofol pencampwriaeth UEFA Euro 2021.
Dyma fydd trydedd gêm Cymru yn yr ymgyrch yn dilyn buddugoliaeth 6-0 yn erbyn Ynysoedd Ffaroe ym mis Awst a gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Gogledd Iwerddon fis diwethaf.
Mae Belarws wedi chwarae un gêm hyd yma, gan drechu Ynysoedd Ffaroe o 6-0 hefyd.
Y tro diwethaf wnaeth Cymru a Belarws wynebu ei gilydd, yn 2014, Natasha Harding oedd yr arwr wrth i'w thair gôl sicrhau buddugoliaeth 3-0 yn Minsk.
Carfan Cymru'n llawn:
Laura O'Sullivan (Merched Dinas Caerdydd), Claire Skinner (Merched Dinas Caerdydd), Sophie Ingle (Chelsea), Hayley Ladd (Manchester United), Loren Dykes (Bristol City), Gemma Evans (Bristol City), Rhiannon Roberts (Lerpwl), Charlie Estcourt (Charlton Athletic - ar fenthyg o Reading), Anna Filbey (Tottenham Hotspur), Angharad James (Reading), Elise Hughes (Everton), Rachel Rowe (Reading), Natasha Harding (Reading), Emma Jones (Lewes), Megan Wynne (Tottenham Hotspur), Helen Ward (Watford), Kayleigh Green (Brighton & Hove Albion), Josie Green (Tottenham Hotspur), Nadia Lawrence (Merched Dinas Caerdydd), Georgia Walters (Tranmere Rovers).
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Awst 2019
- Cyhoeddwyd3 Medi 2019