Cymru 2-2 Gogledd Iwerddon

  • Cyhoeddwyd
Kayleigh GreenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Kayleigh Green yn credu ei bod wedi sgorio'r gôl fuddugol gydag 20 munud yn weddill

Roedd torcalon i dîm merched Cymru nos Fawrth wedi i Ogledd Iwerddon sgorio gôl munud olaf i sicrhau gêm gyfartal yng Nghasnewydd.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi 10 munud ar ôl i Simone Magill rwydo wedi i Gymru fethu â chlirio'r bêl o gic gornel.

Ond daeth Cymru'n gyfartal yn fuan wedi hynny, gydag ergyd Angharad James yn gwyro oddi ar gefn Emma Jones i gefn y rhwyd.

Aeth y tîm cartref ar y blaen gydag 20 munud yn weddill wedi i Kayleigh Green benio i'r rhwyd o groesiad Rhiannon Roberts.

Ond ym munud olaf y gêm llwyddodd Ashley Hutton i sgorio i Ogledd Iwerddon yn dilyn camgymeriad gan y golwr Laura O'Sullivan.

Cafodd y garfan y dechrau gorau posib i'r ymgyrch i gyrraedd Euro 2021 nos Iau gan drechu Ynysoedd Ffaroe o 6-0 yn Tórshavn.

Bydd gêm nesaf carfan y merched yn Belarws ar 8 Hydref.