'Os alla i wneud o, dydi hi ddim yn rhy hwyr i neb'
- Cyhoeddwyd
Dydych chi byth yn rhy hen i ddechrau ar ymarfer corff. Dyna yw neges Anne Collis o Waunarlwydd ger Abertawe.
Yn 49 oed, aeth hi i'w gwers ymarfer corff cyntaf ers blynyddoedd, a dydi hi ddim wedi edrych yn ôl.
Pum mlynedd yn ddiweddarach, mae hi ar fin cystadlu yn ei chystadleuaeth codi pwysau cyntaf, ac mae â'i bryd ar ennill medalau i Gymru yn y gamp.
Am y rhan fwyaf o'i bywyd, roedd Anne wedi cysylltu ymarfer corff gyda theimladau negyddol.
"Pa o'n i'n saith oed, ges i'n rhoi ar steroids i drin eczema, felly pan ddes i allan o'r ysbyty o'n i'n enfawr.
"O hynny ymlaen roedd yn frwydr gyson gyda fy mhwysau a bwlio. Fi oedd yr un oedd y plant eraill yn trio peidio'i chael ar eu timau chwaraeon - roedd rhai athrawon hyd yn oed yn bygwth hynny arnyn nhw i'w cael nhw i fihafio!
"Dros y blynyddoedd, 'swn i'n trio bod ychydig mwy corfforol, ond bob amser yn llwyddo i frifo neu dynnu rhywbeth - fyddai popeth wastad yn fethiant.
"Felly 'nes i gyrraedd 49 heb brofiad llwyddiannus o wneud ymarfer corff, a ddim yn meddwl byddai hynny byth yn newid.
"Nagiodd mab fy ffrind i i fynd i wers crossfit yn ei gampfa yn Gaerwen, Ynys Môn, gan addo bod modd addasu unrhyw ymarferiad i'w wneud o'n addas i rywun o bob gallu a lefel. Es i yno jyst er mwyn cau ei geg o.
"O'n i'n crio yn y car tu allan cyn mynd i mewn, achos o'dd o'n dod â holl atgofion yr ysgol yn ôl, ac o'n i'n rhoi fy hun mewn lle 'sa pobl yn gallu fy meirniadu a chwerthin am fy mhen i."
Ond roedd y wers gyntaf, dyngedfennol honno yn llawer gwell na oedd Anne wedi ei ofidio.
"Roedd pawb yn gwneud y lefel oedd yn addas iddyn nhw. Yr ymarferiad cynta' oedd i eistedd ar focs a chodi heb ddefnyddio fy nwylo. Do'n i methu ei wneud, felly ges i focs ychydig uwch, yna o'n i'n gallu ei wneud o!
"Ro'n i'n gwneud press-ups wrth sefyll yn erbyn wal a gwthio i ffwrdd gyda mreichiau, a'n fersiwn gyntaf i o sit-up oedd gorwedd ar y llawr, tynhau cyhyrau fy stumog am ddeg eiliad, a'u rhyddhau.
"Ar ôl y sesiwn gynta' 'na, o'n i prin yn gallu cerdded, ond o'n i ddim wedi torri dim byd. O'n i'n hooked, achos rhoddodd o'r gobaith i mi y gallwn i droi fy iechyd rownd, a fod yna siawns y gallwn i wella'n gorfforol. Dechreuais i fynd i dair sesiwn yr wythnos.
"Ro'n i weithiau'n hyfforddi ochr-yn-ochr ag athletwyr elite. Doedd neb yn chwerthin am ben neb am beth oedden nhw'n gallu neu ddim yn gallu ei wneud, a neb yn cael medal aur am allu gwneud mwy na neb arall.
"Os oeddech chi'n chwysu ac yn rhoi'r ymdrech i mewn, roedd pawb yn cymeradwyo pawb. Roedden ni i gyd yn hafal, ac roedd hynny'n hyfryd ac yn gwneud i mi fod eisiau gwneud mwy. Mor wahanol i mhrofiad i pan o'n i'n iau.
"Wrth i'n ffitrwydd i gynyddu, roedd yr ymarferiadau'n mynd yn anoddach. Ac ar ddydd fy mhenblwydd yn 50, nes i fy handstand cyntaf, sef rhywbeth o'n i wedi bod eisiau ei wneud ers y dechrau."
Ar ôl 25 mlynedd o fyw ym Mangor, symudodd Anne a'i theulu i ardal Abertawe, ac ymunodd â champfa newydd. Penderfynodd newid trywydd ychydig a dechrau codi pwysau.
"Pan o'n i'n cael fy mwlio fel plentyn tua 11-12 oed, ro'n i bob amser yn dweud celwydd wrtha fi fy hun, ac eraill, bod dim ots gen i, achos 'mod i'n godwr pwysau'. Felly, fe 'nes i benderfynu mynd amdani i wneud hyn fel oedolyn, fel teyrnged i'r ferch fach honno.
"Roedd rhaid iddo fo fod yn amcan ddigon pwysig i mi wthio drwy unrhyw ddyddiau caled, er mwyn cyrraedd y targed.
"Rŵan dwi'n hyfforddi mewn campfa codi pwysau pedair gwaith yr wythnos, am tua 1.5-2 awr bob sesiwn. Dwi'n gwneud Olympic weightlifting, sy'n cynnwys snatch a clean and jerk - sydd yn dibynnu ar sgil a gallu deall beth mae eich corff yn ei wneud, ynghyd â chryfder.
"Dwi'n paratoi ar gyfer fy nghystadleuaeth gyntaf - y Welsh Open. Bydd yn brofiad anhygoel. Dwi'n barod yn bwriadu mynd ymlaen wedyn i'r Welsh Masters, gyda'r gobaith o ennil lle yn y British Masters, yna'r European Masters... a phwy a ŵyr, efallai'r World Masters rhyw ddydd!
"Wrth gwrs, mae 'na ddyddiau pan dwi ddim yn teimlo fel gwneud dim byd. Ond mae pawb yn cael dyddiau fel yna. Ti'n gwneud yr ymarfer corff beth bynnag, a ti'n teimlo lot gwell wedyn, a ti'n gwybod bo' ti'n gweithio tuag at rywbeth."
Mae bywyd Anne wedi trawsnewid yn aruthrol - yn gorfforol ac yn feddyliol.
"Dwi newydd brynu fy singlet codi pwysau cynta'. 'Sa 'na rywun wedi dweud wrtha' i ychydig o flynyddoedd yn ôl mod i'n fodlon mynd allan yn gyhoeddus mewn rhywbeth sy'n edrych fel gwisg nofio, 'swn i wedi chwerthin am eich pennau chi!
"Ond rŵan, dwi jest ddim yn meindio. Dwi'n gwybod beth mae nghorff i'n gallu ei wneud, felly dwi ddim yn poeni beth mae pobl eraill yn ei feddwl ohona i. Y diwrnod o'r blaen, nes i gario 100kg o dywod - mae hynny'n gwneud lot i hyder rhywun!
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Pan fydda i wedi cael digon ar y cystadlu, bydda i'n mynd yn ôl i crossfit, achos dyna sydd am wneud yn siŵr mod i'n gallu symud, plygu, mynd i siopa, codi o'r gwely a byw bywyd arferol pan fydda i yn fy 70au ac 80au.
"Pan nes i ddechrau, fi oedd un o'r bobl hynaf, mwyaf dros-bwysau, lleiaf ffit, a lleiaf brwdfrydig am ymarfer corff oedd yn y gwersi. Roedd hi'n her, ac roedd rhaid i mi wthio fy hun.
"Ac mae 'na gymaint o bobl sydd fel o'n i. Ond mae 'na obaith.
"Os alla i wneud o, dydi hi ddim yn rhy hwyr i neb."
Hefyd o ddiddordeb: