Gobeithion Morgannwg am ddyrchafiad yn deilchion

  • Cyhoeddwyd
EdgbastonFfynhonnell y llun, Gavin Ellis/TGS Photo/REX/Shutterstock

Mae gobeithion tîm criced Morgannwg o ennill dyrchafiad i adran gyntaf Pencampwriaeth y Siroedd bron yn sicr ar ben.

Ar drydydd diwrnod y gêm yn erbyn Durham - gêm y mae'n rhaid i Forgannwg ei hennill i gael unrhyw obaith - doedd dim chwarae o gwbl oherwydd y glaw.

Hyd yn oed os fydd unrhyw chwarae ar y diwrnod olaf, mae Morgannwg angen pwyntiau batio llawn yn eu batiad cyntaf... ac ennill y gêm wrth gwrs.

Gyda chyn lleied o amser yn weddill, mae hynny'n bur annhebygol.

Mae Durham ar 262-8 yn eu batiad cyntaf nhw.