Pro14: Munster 39-9 Dreigiau

  • Cyhoeddwyd
Sam DaviesFfynhonnell y llun, Inpho
Disgrifiad o’r llun,

Sam Davies wnaeth sgorio holl bwyntiau'r Dreigiau yn ei gêm gyntaf ers ymuno o'r Gweilch

Collodd y Dreigiau'n drwm i Munster yn eu gêm gyntaf yn nhymor newydd y Pro14.

Sgoriodd y gwrthwynebwyr bum cais i sicrhau pwynt bonws.

Daeth holl bwyntiau'r Dreigiau o giciau'r maswr Sam Davies yn ei gêm gyntaf ers ymuno o'r Gweilch yn yr haf.

Hon hefyd oedd gêm gyntaf Owen Jenkins yn y Pro14, tra bod y gwibiwr Ashton Hewitt yn dychwelyd i chwarae ei gêm gystadleuol gyntaf ers Ebrill 2018 wedi anaf i'w ysgwydd.

22-9 oedd y sgôr ar yr egwyl ac fe sgoriodd Munster 14 o bwyntiau tra roedd Richard Hibbard yn y gell gosb am dacl peryglus ar Jack O'Donoghue.

Dywedodd cyfarwyddwr rygbi newydd y Dreigiau, Dean Ryan bod yna elfennau cadarnhaol i berfformiad ei dîm ond bod "angen dysgu sut i chwarae yn erbyn timau sy'n fwy corfforol na ni".

Munster:

Haley; Sweetnam, Scannell, Bleyendaal, Daly; Hanrahan, McCarthy; Loughman, O'Byrne, Archer; Wycherley, Holland (capt); O'Donoghue, O'Donnell, Botha.

Eilyddion: Barron, Cronin, Knox, O'Shea, Cloete, Mathewson, Coombes, O'Sullivan.

Dreigiau:

J Williams; Hewitt, Warren, Dixon, Jenkins; S Davies, R Williams (capt); Harris, Hibbard, Brown, Davies, Screech, Taylor, Griffiths, Evans.

Eilyddion: Shipp, Bevington, Fairbrother, M Williams, Basham, Knoyle, Botica, Morgan.