Pryder am ymddygiad grwpiau o bobl ifanc yn Llanfairpwll
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cadw golwg ar rannau o bentref ar Ynys Môn yn sgil pryderon am gynnydd yn nifer yr achosion yn ddiweddar o ymddygiad gwrthgymdeithasol ymhlith grwpiau o bobl ifanc.
Yn y mis diwethaf, mae aelodau'r cyhoedd wedi cysylltu â'r llu yn poeni bod hyd at 30 o bobl ifanc - rhai ond yn 14 oed - yn dod at ei gilydd yn Llanfairpwll tan yr oriau mân ar nosweithiau'r penwythnos.
Dywed yr heddlu bod difrod wedi ei achosi i faes pêl-droed y pentref, a bod yna dystiolaeth o yfed alcohol a chymryd cyffuriau.
Maen nhw hefyd yn dweud bod hi'n bosib bod rhai o'r unigolion yn dod i'r pentref o rannau eraill o'r ynys ac o Wynedd.
'Peryglon hefyd i'r bobl ifanc'
"Mae gweld pobl ifanc yn ymgynnull a chymdeithasu yn rhan annatod o fywyd," meddai swyddog cefnogaeth y llu yn yr ardal, y Sarjant Ian Roberts.
"Fodd bynnag, pan mae ymddygiad unrhyw berson ifanc neu oedolyn yn helaethu i'r drefn gyhoeddus, difrod troseddol camddefnyddio alcohol a chyffuriau - yn amlwg fe fydd y troseddau hynny'n effeithio ar ansawdd bywyd trigolion.
"Fel tîm plismona rydym hefyd yn poeni am y peryglon posib i'r bobl ifanc.
"Yn anffodus, mae ecsploetio pobl ifanc yn rhywiol ac yn droseddol yn risg gwirioneddol.
Ychwanegodd: "Byddwn yn awgrymu hefyd nad ydy plant lle mae eu rhieni yn credu y maen nhw, felly rwy'n erfyn ar rieni i wneud yn siŵr eu bod yn gwybod lle mae eu plant."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mai 2019