Glaw trwm yn achosi trafferthion i deithwyr yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Llifogydd yng NghaerffiliFfynhonnell y llun, Ben Williams
Disgrifiad o’r llun,

Cerbyd dan ddŵr wedi llifogydd ar ffordd yng Nghaerffili

Mae ffyrdd ar gau, trenau wedi eu dargyfeirio a chyflenwadau trydan wedi torri mewn rhai mannau yn dilyn glaw trwm dros nos.

Bydd bysiau yn lle trenau rhwng Machynlleth a'r Drenewydd tan ddiwedd nos Lun oherwydd llifogydd.

Disgrifiad o’r llun,

Afon Tywi yng Nghaerfyrddin nos Sul wedi'r glaw trwm

Disgrifiad o’r llun,

Llanw uchel yng Nghaerfyrddin nos Sul wedi'r glaw trwm

Nos Sul roedd yna lanw uchel yng Nghei Caerfyrddin wedi i'r afon Tywi godi.

Y cyngor gan Heddlu De Cymru yw i yrwyr gymryd pwyll gan fod "amodau gyrru'n dal yn wael iawn", ac i ganiatáu digon o amser ychwanegol ar gyfer pob siwrne.

Mae rhybudd melyn pellach am law trwm, dolen allanol wedi ei gyhoeddi sy'n berthnasol i bob un o siroedd Cymru rhwng 15:00 ddydd Llun tan 15:00 ddydd Mawrth.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Cyfoeth Naturiol Cymru | Natural Resources Wales

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Cyfoeth Naturiol Cymru | Natural Resources Wales

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi nifer o rybuddion llifogydd ar draws Cymru.

Dywedodd llefarydd bod swyddogion yn archwilio amddiffynfeydd a chlirio gridiau draenio i leihau'r risg i bobl a'u cartrefi.

"Mae'r llanw uchel yn parhau i achosi pryder ar hyd yr arfordir dros y dau ddiwrnod nesaf, ond gyda'r rhagolygon o law mae'n bwysig i gofio bod yna risg o hyd o lifogydd mewndirol o afonydd a dŵr arwyneb.

"Rydym eisiau i bobl fod yn ymwybodol bod dŵr llifogydd yn gallu bod yn beryglus iawn, a dylai pobl ddim ceisio i gerdded neu yrru trwyddo oni bai am dan gyfarwyddyd y gwasanaethau brys."

Disgrifiad o’r llun,

Llifogydd yn Llanbedr-y-Fro ym Mro Morgannwg

Bu'n rhaid cau'r ffyrdd canlynol oherwydd llifogydd:

  • Yr A48 Ffordd Caerfyrddin rhwng yr M4 (Cylchfan Pont Abraham) a Fforest

  • Yr A40 i'r ddau gyfeiriad rhwng yr A483 a Manordeilo yn Sir Gaerfyrddin

  • Yn Abertawe, yr A484 i'r ddau gyfeiriad o'r A4240 (Cylchfan Llwchwr) i'r B4296 Ffordd Fictoria (Tregŵyr)

  • Ym Mhowys, yr A458 o'r B4392 (Cyfronydd) i'r B4389 (Glascoed)

  • Yr A487 Pont Dyfi i'r ddau gyfeiriad rhwng yr A493 a gorsaf Machynlleth

  • Yr A4059 i'r ddau gyfeiriad rhwng Aberpennar a'r A472 (Cylchfan Abercynon)

Ffynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhybudd sy'n dod i rym brynhawn Llun yn berthnasol i bob rhan o Gymru