Bocsiwr o Gaernarfon yn gwella wedi gwaedlif ymennydd
- Cyhoeddwyd
Mae bocsiwr a gafodd waedlif ar yr ymennydd ar ôl ymladd mewn digwyddiad yng Nghaernarfon yn gwella ar ôl cael llawdriniaeth.
Ar ôl ennill ei gornest ddydd Sadwrn, dechreuodd Cara Owen, 21 o Gaernarfon, deimlo'n benysgafn cyn iddi fynd yn anymwybodol.
Cafodd ei rhuthro i Ysbyty Gwynedd, a dangosodd sgan bod ganddi waedlif rhwng yr ymennydd a'r penglog.
Cafodd ei chludo i uned arbenigol yn Stoke lle cafodd hi lawdriniaeth i dynnu ceulad gwaed.
Roedd yr athletwraig, sy'n hyfforddi mewn crefft ymladd, wedi bod ymladd dros dair rownd, dwy funud o hyd, fel rhan o sioe yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon.
Ar ôl y llawdriniaeth, dywedodd llawfeddygon fod Cara "heibio'r gwaethaf" ac yn gwella'n gyflym.
'Amser erchyll'
"Bu yn y theatr am gwpl o oriau," meddai ei hewythr Chris Pritchard, a drefnodd y digwyddiad.
"Roedd yn amser erchyll i ni aros heb glywed dim."
Dywedodd fod meddygon wedi penderfynu deffro Cara ddoe, a'i bod hi'n ymddangos ychydig yn gysglyd, ond ei bod yn cydnabod pawb a oedd yn yr ystafell.
"Roedd hi'n gwenu - roedd hi hyd yn oed yn gallu mwmian 'Dwi'n dy garu di' i ni."
Mae Cara bellach wedi'i throsglwyddo o'r uned gofal dwys i ward gyffredin er mwyn gwella ymhellach.
Mae Mr Pritchard wedi bod yn trefnu nosweithiau ymladd ers 10 mlynedd ond dywedodd y bydd yr hyn â ddigwyddodd yn gwneud iddo ailystyried cynnal digwyddiadau yn y dyfodol.
Mae Cara wedi ennill pump o'i chwe gornest hyd yn hyn, ond dywedodd Mr Pritchard y bydd y teulu yn ei chynghori i beidio ag ymladd eto.