Herio beirdd i ysgrifennu 100 o gerddi mewn 24 awr
- Cyhoeddwyd

Mae Beth Celyn, sy'n un o'r pedwar sy'n gwneud yr her eleni, hefyd yn gantores
Bydd pedwar bardd yn ceisio mynd ati i gyfansoddi 100 o gerddi gwreiddiol mewn 24 awr.
Bydd Beth Celyn, Dyfan Lewis, Elinor Wyn Reynolds a Matthew Tucker yn gwneud yr Her 100 Cerdd eleni - sialens flynyddol sy'n cael ei gosod gan Lenyddiaeth Cymru.
Bydd y tîm yn cychwyn arni yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy am 12:00 ddydd Mercher.
Bydd modd i'r cyhoedd ymuno yn yr her drwy awgrymu testunau dros y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y 24 awr.
Mae 3 Hydref yn nodi diwedd y sialens ac mae hefyd yn Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth.
Dyma'r seithfed tro i'r Her 100 gael ei gynnal.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2012