Arestio un wedi marwolaeth dyn yn ardal Castell-Nedd
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi arestio dyn mewn cysylltiad â marwolaeth dyn 66 oed yn ardal Castell-Nedd.
Cafodd swyddogion eu galw i gynorthwyo ambiwlans ar Heol Talbot yng Nghimla am 22:30 ddydd Mercher.
Bu farw dyn 66 oed yno'n fuan wedyn.
Mae'r dyn 54 oed sydd wedi cael ei arestio yn cael ei gadw yn y ddalfa.
Dywedodd yr heddlu nad oedden nhw'n chwilio am neb arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.