Pedwar yn euog o hela mochyn daear wedi ffilmio cudd y BBC

  • Cyhoeddwyd
Helfa moch daear
Disgrifiad o’r llun,

Deunydd ffilmio o raglen Wales Investigates y llynedd

Mae pedwar dyn wedi eu canfod yn euog o hela mochyn daear yn Sir Benfro.

Cafodd y dynion eu harestio yn dilyn ymchwiliad cudd gan BBC Cymru.

Fe geisiodd Christian Latcham, 32, Thomas Young, 26, Cyle Jones, 31, a Jamie Rush, 27, ladd, anafu neu gymryd mochyn daear o safle ger Arberth ym Mawrth 2018.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod y pedwar wedi rhedeg ar ôl y mochyn daear gyda chŵn mewn coedwig.

Er nad oedden nhw'n llwyddiannus, cafodd y pedwar eu dal ar gamera fel rhan o ymchwiliad chwe mis gan y rhaglen materion cyfoes, Wales Investigates.

Roedd y pedwar wedi gwadu'r cyhuddiadau'n eu herbyn, ond cafwyd y pedwar yn euog gan y Barnwr Neil Thomas ddydd Iau.

'Ddim yn dweud y gwir'

Dyma oedd y tro cyntaf i helfa anghyfreithlon gael ei ffilmio'n gudd ers i'r Ddeddf Gwarchod Moch Daear ddod i rym yn 1992.

Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith i'r dde: Cyle Jones, Jamie Rush, Christian Latcham a Thomas Young

Fe ddywedodd y barnwr nad oedd yn credu'r hyn ddywedodd Jamie Rush - yr unig ddiffynnydd i roi tystiolaeth.

"Does gen i ddim anhawster yn dod i'r casgliad diamod nad oedd yn dweud y gwir," meddai.

Rhoddodd un o'r ymchwilwyr cudd dystiolaeth yn y llys hefyd.

Cafodd Latcham ddedfryd o 26 wythnos yn y carchar, tra bod Jones a Rush wedi eu dedfrydu i 22 wythnos dan glo.

Cafodd Young ddedfryd o 20 wythnos, wedi ei gohirio am flwyddyn, a bydd rhaid iddo fod gartref rhwng 21:00-06:00 am 12 wythnos.