Gorchymyn cau fferm ar Ynys Môn am gysylltiad troseddol
- Cyhoeddwyd

Mae fferm ar Ynys Môn wedi ei chau am dri mis gan lys oherwydd ei bod yn gysylltiedig â throseddu dros gyfnod o amser.
Dywedodd yr heddlu bod tystiolaeth i gysylltu Fferm Manaw, Bodedern, gyda throseddau masnachu pobl a phuteindra.
Cafodd cais i gau'r safle gan Heddlu Gogledd Cymru ei gymeradwyo yn Llys Ynadon Caernarfon ddydd Gwener.
Daw ar ôl i'r heddlu arestio dau ddyn a dynes yr wythnos ddiwethaf fel rhan o ymchwiliad i achos o gaethwasiaeth fodern honedig.
Mae'r tri wedi eu rhyddhau dan ymchwiliad.

Dywedodd y Ditectif Sarjant Andrew Davies bod gorchymyn y llys yn dangos bod yr heddlu wedi "gwrando ar bryderon pobl leol".
Ychwanegodd bod y gorchymyn yn dangos i'r rhai sy'n bwriadu gweithredu yn yr un ffordd ddifrifoldeb "gweithredoedd o'r fath a'u heffaith ar fywyd heddychlon y cyhoedd".