Cau ffyrdd wrth i filoedd redeg hanner marathon Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
dechrau'r ras
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd y brif ras am 10:00

Mae strydoedd Caerdydd wedi bod yn llawn wrth i filoedd o bobl redeg yr Hanner Marathon yn y ddinas ddydd Sul.

Cafodd ras elît y dynion ei hennill gan Leonard Langat o Kenya, a gwblhaodd y cwrs mewn 59 munud 29 eiliad - record newydd i'r ras.

Lucy Cheruiyot o Kenya enillodd ras y merched, a hynny mewn 68 munud 19 eiliad.

Brynhawn Sul, cadarnhaodd trefnwyr y ras bod un rhedwr wedi marw.

Roedd disgwyl tua 27,500 o redwyr i gymryd rhan yn y ras 13.1 milltir eleni - y drydedd ras fwyaf yn y DU.

Am y tro cyntaf yn hanes y ras, roedd mwy o fenywod yn cymryd rhan na dynion.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth llawer o redwyr gystadlu mewn gwisg ffansi

Cafodd Ffordd y Castell, man cychwyn y ras, ei gau o 04:00 fore Sul a bydd nifer o ffyrdd eraill yn y brifddinas ddim yn ailagor tan 15.15.

Daeth miloedd o bobl allan i weld y ras o amgylch y brifddinas, a ddechreuodd am 10:00.

Dechreuodd y rhedwyr eu taith o flaen y Castell Caerdydd ac yna rhedeg heibio Stadiwm Dinas Caerdydd, i Marina Benarth ac yna heibio Canolfan y Mileniwm i lyn Parc y Rhath cyn gorffen ar Rodfa Edward VII yng nghanol y brifddinas.

Mae trigolion y ddinas, rhedwyr ac ymwelwyr yn cael cyngor i wirio pa ffyrdd sydd ar gau ac amserlen Bws Caerdydd, dolen allanol.

Bydd modd parcio yn Stadiwm Dinas Caerdydd ac yna cerdded i ganol y ddinas.

Ffynhonnell y llun, Run 4 Wales
Disgrifiad o’r llun,

Bydd taith y rhedwyr yn croesi o Benarth i Fae Caerdydd

Pan ddechreuodd y ras yn 2003, roedd 1,500 yn rhedeg ond bellach y digwyddiad yw'r ail hanner marathon fwyaf ym Mhrydain.

Mae ymchwil gan Brifysgol Caerdydd yn dangos bod rhedwyr wedi gwario £2.5 miliwn yn y ddinas yn 2018.

Ond mae rhai busnesau bach yn dweud na fyddan nhw ar agor ddydd Sul gan bod llai o siopwyr yn ymweld â'r ddinas a'i bod yn broblem i staff gyrraedd y gwaith.