Rhedwr wedi marw yn dilyn Hanner Marathon Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
hanner marathon

Mae rhedwr wedi marw ar ôl cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd ddydd Sul.

Dywedodd trefnwyr Run 4 Wales fod y rhedwr wedi cael triniaeth gan dîm meddygol ar y cwrs cyn cael ei ruthro i Ysbyty Athrofaol Cymru ble bu farw.

Fore Llun, dywedodd y prif weithredwr Matt Newman bod y rhedwr wedi ei drin "yn syth" wedi'r digwyddiad.

"Roedd yn ddigwyddiad ar y llinell derfyn, llathenni o'r ganolfan iechyd felly roedd yr ymateb yn syth."

Trefnwyr 'wedi ein llorio'

Ychwanegodd bod yr holl drefnwyr yn "cydymdeimlo'n ddwys gyda theulu'r rhedwr fu farw ar ôl cymryd rhan yn y digwyddiad".

"Fe wnaeth y gwasanaethau brys ymateb i'r sefyllfa erchyll yn sydyn a phroffesiynol. Mae pawb sy'n gysylltiedig â'r ras wedi ein llorio."

Llynedd bu farw dau redwr yn dilyn yr hanner marathon, a hynny o ataliadau ar y galon.

Roedd tua 27,500 o bobl ar strydoedd y brifddinas ar gyfer y ras, a ddechreuodd am 10:00.