Pro14: Leinster 53-5 Gweilch
- Cyhoeddwyd
Mae dechrau siomedig y Gweilch i'r tymor newydd yn parhau wedi iddyn nhw gael cweir oddi cartref yn Leinster nos Wener.
Cafodd y tîm cartref ddechrau cryf, gyda Fergus McFadden yn croesi am gais agoriadol y gêm wedi ychydig dros 10 munud.
Llwyddodd Ronan Kelleher a Joe Tomane i sgorio cyn hanner amser i'w gwneud yn 22-0 ar yr egwyl.
Fe wnaeth Leinster sicrhau eu pwynt bonws gyda chais gan Kelleher ar ddechrau'r ail hanner, cyn i'r bachwr sgorio ei drydydd ychydig funudau'n ddiweddarach.
Ychwanegodd yr eilyddion Max Deegan a Harry Burne ddau gais arall cyn i Michael Milne groesi i'w cymryd dros hanner cant o bwyntiau.
Llwyddodd Luke Morgan i sgorio unig gais - ac unig bwyntiau - y Gweilch yn y munudau olaf.