Pro14: Glasgow 21-25 Scarlets

  • Cyhoeddwyd
ScarletsFfynhonnell y llun, Getty Images

Llwyddodd y Scarlets i drechu Glasgow oddi cartref nos Wener i barhau gyda'u dechrau addawol i'r tymor yn y Pro14.

Roedd hi'n hanner cyntaf tynn iawn, gyda'r timau yn gyfartal 6-6 ar yr egwyl yn dilyn goliau cosb gan Brandon Thomson a Dan Jones.

Ond yr ymwelwyr gafodd gais cynta'r gêm, gyda Kieran Hardy yn croesi ar ddechrau'r ail hanner.

Llwyddodd y Scarlets i reoli'r gêm yn llwyr dros y 10 munud nesaf, gyda Paul Asquith a Steff Evans yn croesi am geisiau cyn 60 munud o chwarae.

Fe wnaeth Glasgow daro 'nôl gyda chais gan Thomson cyn i Stafford McDowall ychwanegu cais arall i'r tîm cartref yn y munudau olaf.