Ffrae ym Mhen Llŷn yn arwain at gŵyn am weinidog
- Cyhoeddwyd
Mae ffrae rhwng pysgotwyr a pherchennog tai haf dros fynediad i lanfa ym Mhen Llŷn wedi arwain at gŵyn am un o weinidogion Llywodraeth Cymru.
Yn ôl Aelod Seneddol Dwyfor Meirionydd, Liz Saville Roberts, mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi torri'r cod gweinidogol trwy ymyrryd.
Mae gohebiaeth rhwng Ms Griffiths a Chyngor Gwynedd yn dangos ei bod wedi mynnu bod arwyddion yn cael eu tynnu lawr oddi ar dir yr honnir sydd dan berchnogaeth dyn sy'n byw yn ei hetholaeth.
Mae'n ymddangos fod Ms Griffiths wedi arwyddo'r llythyrau at Gyngor Gwynedd gyda'i theitl gweinidogol yn hytrach na'i theitl fel Aelod Cynulliad.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae proses cwyno mewn lle ond fe wnaethon nhw wrthod datgan os oedd y mater dan ystyriaeth.
Pan gwynodd pysgotwyr lleol fod y lanfa ym Mhorth Colmon yn rhy brysur fe gododd Cyngor Gwynedd arwyddion yn rhybuddio ymwelwyr i fod yn wyliadwrus rhag rhwystro mynediad i'r dŵr.
Ond yn ôl Stephen Mackreth, sy'n byw yn Wrecsam, cafodd yr arwyddion hyn eu codi ar ei dir o ac fe ysgrifennodd at ei AC, Ms Griffiths, yn gofyn iddi ymyrryd ar ei ran.
Yn ddiweddarach fe ysgrifennodd Ms Griffiths i Gyngor Gwynedd yn gofyn iddyn nhw dynnu'r arwyddion i lawr ac arwyddwyd y ddogfen gyda'i theitl gweinidogol yn hytrach na'i theitl fel AC.
Gall hyn awgrymu fod Ms Griffiths wedi torri'r cod gweinidogol gan fod yn rhaid i weinidogion gadw materion etholaethol a gweinidogol ar wahân.
'Defnyddio ei phŵer fel gweinidog'
Yn ôl Ms Saville Roberts mae hi wedi gofyn i'r prif weinidog Mark Drakeford "godi hyn fel cwyn" gan ei fod yn groes i'r cod.
"Mae hi wedi ysgrifennu yn defnyddio ei phŵer hi fel gweinidog i gario ei barn," meddai.
Mae Sion Williams wedi pysgota ym Mhorth Colmon ers 33 o flynyddoedd ac mae'r ffrae yn "peri pryder" iddo.
"Mae fy mywoliaeth i a physgotwyr eraill yma," meddai.
"Mae gennai deulu i gynnal ac os allai ddim mynd o fan hyn i'r dŵr yn ddi-rwystr dwi methu ennill fy mywoliaeth."
Yn ôl Mr Mackreth, sy'n honni i fod yn berchen ar y tir, mae o wedi cynnig gwerthu rhan ohono am £1 i'r pysgotwyr - ond mae Mr Williams yn mynnu nad ei dir o ydy o i'w werthu.
Wrth siarad â BBC Cymru dywedodd Mr Mackreth ei fod yn deall rhwystredigaeth y pysgotwyr a'i fod yn eu cefnogi.
"Da ni'n gwybod fod problemau wedi bod yn yr haf a bod y pysgotwyr yn straffaglu a dyma pan rydyn ni wedi cynnig y tir," meddai.
Gwrthod y gosodiad hwn mae Mr Williams.
Gweinidog wedi 'pwyso'
Mewn e-bost ddaeth i sylw BBC Cymru mae swyddog morwrol a pharciau gwledig Cyngor Gwynedd, Barry Davies yn nodi iddo fod mewn cysylltiad â Ms Griffiths a'i bod hi wedi "pwyso" arnynt "i dynnu'r arwyddion oddi ar y safle".
Dywedodd fod y cyngor wedi "ceisio eu gorau i gynorthwyo".
Doedd swyddfa Ms Griffiths ddim am wneud sylw ar y mater ac yn ôl Llywodraeth Cymru does dim ymchwiliad ffurfiol ar hyn o bryd.