Y Gynghrair Genedlaethol: Woking 1-1 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam yn parhau i fod heb ennill oddi cartref y tymor yma wedi i Woking lwyddo i gipio pwynt gyda chwarter awr i fynd.
Roedd y Dreigiau wedi methu cyfleoedd yn yr hanner cyntaf, ond fe aethon nhw ar y blaen ar ddechrau'r ail hanner diolch i ergyd James Jennings.
Ond parhaodd Woking i bwyso ac fe unionwyd y sgôr gan Kane Ferdinand.
Mae Wrecsam yn aros yn 20fed yn y tabl, un lle uwchben safleoedd y cwymp, ac mae disgwyl iddyn nhw benodi rheolwr newydd yn ydyddiau nesaf.