Pro14: Gleision 11-19 Caeredin
- Cyhoeddwyd
Colli oedd hanes y Gleision yn eu gêm gartref cyntaf y tymor hwn wrth i Gaeredin selio'r fuddugoliaeth gyda chais hwyr.
Bu'n agos rhwng y ddau dîm am y rhan fwyaf o'r ornest, gydag Owen Lane yn sgorio cais unig gais y Gleision yn yr hanner cyntaf.
Roedd yr ymwelwyr eisoes ar y blaen bryd hynny wedi dwy gic gosb gan Jacob van der Walt, a phwynt oedd ynddi ar yr egwyl wrth i Jarrod Evans a van der Walt gyfnewid ciciau cosb pellach.
Yn yr ail hanner fe aeth y Gleision ar y blaen eto drwy droed Evans, cyn i van der Walt ymateb gyda chic gosb arall.
Daeth cais Caeredin gyda llai na 10 munud i fynd wrth i George Taylor fwydo Mark Bennett i groesi.
Llwyddodd van der Walt gyda'r trosiad i gwblhau noson lwyddiannus iddo o flaen y pyst, a sicrhau na fyddai'r Gleision yn cael pwynt bonws hyd yn oed.