Prif Weinidog eisiau enw dwyieithog i'r Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Mark Drakeford gadarnhau byddai gweinidogion y llywodraeth yn cael eu chwipio i gefnogi cynnig Carwyn Jones.

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi cadarnhau bydd Llywodraeth Cymru'n cefnogi cynnig sy'n ceisio sicrhau bod y Cynulliad yn cael enw dwyieithog pan fydd yn cael ei ail enwi.

Bydd ACau yn pleidleisio ddydd Mercher ar gynlluniau i newid yr enw presennol - Senedd.

Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn disgwyl i bobl ddefnyddio'r term Cymraeg wrth gyfeirio at y sefydliad pob dydd.

Ond ychwanegodd fod dadl dros gael mwy o eglurder yn y gyfraith.

Mae'r cyn brif-weinidog, Carwyn Jones wedi cyflwyno newid byddai'n golygu mai Senedd Cymru fyddai'n cael ei ddefnyddio ar gyfer y Cynulliad yn y Gymraeg a'r term 'Welsh Parliament' yn cael ei ddefnyddio yn y Saesneg.

"Yn bersonol rwy'n defnyddio'r gair Senedd, a dwi'n siŵr yn gyffredinol dyna fyddai pobl Cymru yn ei wneud," meddai Mr Drakeford.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Carwyn Jones wedi cyflwyno newid byddai'n golygu mai Senedd Cymru fyddai'n cael ei ddefnyddio ar gyfer y Cynulliad yn y Gymraeg a'r gair 'Parliament' yn cael ei ddefnyddio yn y Saesneg.

Ond fe eglurodd fod "angen bod yn glir o ran y gyfraith".

"Mae dadl wahanol rhwng yr hyn byddwn yn ei roi ar bapur a beth yw fy marn bersonol i o beth fyddai'n cael ei ddefnyddio o ddydd i ddydd," meddai.

Chwipio gweinidogion i gefnogi

Fe wnaeth Mr Drakeford gyfeirio at y term sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer Senedd Gweriniaeth Iwerddon.

"Rydym wastad yn defnyddio'r esiampl o'r Dáil yn yr Iwerddon - dim ond Dáil mae pobl yn ei ddefnyddio.

"Ar bapur ac yn gyfreithiol mae term ehangach na hynny."

Fe wnaeth Mr Drakeford hefyd gadarnhau byddai gweinidogion y llywodraeth yn cael eu chwipio i gefnogi cynnig Carwyn Jones.

Ond, dywedodd y byddai aelodau meinciau cefn Llafur yn cael pleidlais rydd.