Barclays: Cadw canghennau trefi ar agor nes 2021

  • Cyhoeddwyd
Barclays CaernarfonFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae cangen Barclays yng Nghaernarfon ar y rhestr o'r rheiny sy'n ddiogel nes Hydref 2021

Bydd banc Barclays yn cadw eu cangen ar agor mewn 16 o drefi yng Nghymru nes 2021.

Fe gyhoeddodd y cwmni fore Mawrth na fyddan nhw'n cau unrhyw gangen lle mai nhw ydy'r banc olaf ar agor yn y dref neu mewn trefi sydd yn anghysbell.

Fe fyddan nhw hefyd yn edrych ar ffyrdd o gynyddu'r defnydd o ganghennau yn gyffredinol, ac y byddan nhw'n caniatáu i gwsmeriaid godi arian o'u cyfrifon mewn siopau pan fod diffyg peiriant twll yn y wal yn y dref.

Mae'r cwmni wedi cau 55 o ganghennau yng Nghymru ers 2015, gyda'r rhai mwyaf diweddar yn Aberaeron, Aberdaugleddau, Abertyleri, Arberth, Bwcle, Caergybi, Glynrhedynog, Maendy, Llanymddyfri, Porthcawl, Tonypandy a Thywyn.

Yn ôl y cwmni eu bwriad ydy gweithio gyda chymunedau er mwyn cadw eu cangen yn hyfyw ar gyfer y dyfodol.

"Rydyn ni'n grediniol, yn y dyfodol, mai addysgu pobl am arian fydd rhan fawr o'r gwaith," meddai Adam Rowse o Barclays, "sef helpu pobl gyda'r pethau yna sy'n bwysig yn eu bywydau, fel agor eu cyfrif banc cyntaf, mynd i'r brifysgol neu gychwyn busnes."

"Rydyn ni'n gweithio'n galed gyda'r gymuned leol i geisio darganfod beth yn union maen nhw ei eisiau."

Bydd cangen banc Barclays yn y trefi isod yn parhau ar agor nes mis Hydref 2021:

  • Bargoed

  • Llanfair-ym-Muallt

  • Llandeilo

  • Rhisga

  • Tredegar

  • Treorci

  • Ystrad Mynach

  • Llangollen

  • Aberhonddu

  • Caernarfon

  • Llanbedr Pont Steffan

  • Trefynwy

  • Porthmadog

  • Pwllheli

  • Dinbych-y-Pysgod

  • Y Trallwng

Mae canghennau Rhisga a Thredegar yn rhan o gynllun peilot gan y cwmni i weld beth yw anghenion cwsmeriaid y dref ac i ddarganfod ffyrdd o gynyddu'r defnydd ohonynt.

Daw cyhoeddiad cwmni Barclays ychydig fisoedd wedi i Gymdeithas Adeiladu'r Nationwide gyhoeddi na fyddan nhw'n cau'r un gangen mewn trefi lle maen nhw yn bresennol ar hyn o bryd nes o leiaf Mai 2021.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl i'r cwmni gau eu cangen yn Nhywyn ym mis Mehefin 2019 rhaid i gwsmeriaid deithio i Aberystwyth neu Ddolgellau i ymweld â changen

Yn ôl y cylchgrawn 'Which', sy'n ymchwilio i faterion defnyddwyr, mae etholaethau De Clwyd, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr a'r Rhondda wedi gweld cwymp o 80% yn nifer eu banciau ers 2015.

Roedd 55 o'r rheiny yn fanciau Barclays.

Nhw ydy'r banc gyda'r ail nifer uchaf o ganghennau i gau ers 2015, yn ail yn unig i RBS.

Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd gan UK Finance, y corff masnach sy'n cynrychioli banciau, derbyniodd pob cangen ar gyfartaledd 104 ymweliad y dydd yn 2017, o'i gymharu â 140 y dydd yn 2012.

Mae hyn yn gwymp o 26% yn niferoedd ymweliadau canghennau banc.

Dywed banciau a chymdeithasau adeiladu mai hwn oedd y prif ysgogydd wrth benderfynu cau cangen, ond eu bod hefyd yn ystyried bod arferion bancio cwsmeriaid yn newid.