Dirgelwch y ci o Gymru a'r llong danfor Almaenig

  • Cyhoeddwyd
Lotte gyda carcharorion rhyfel ar y llong UFfynhonnell y llun, Freundeskreis Traditionsarchiv Unterseeboote e.V
Disgrifiad o’r llun,

Lotte ar ddec yr U91 gyda dau garcharor rhyfel - Mr Main, gynnwr y Landonia, a James Goodwin, 2il Swyddog ar y Baron Harries

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf fe wnaeth llong danfor Almaenig gymryd ci oddi ar gwch ger arfordir Cymru cyn ei suddo. Gan mlynedd yn ddiweddarach mae ymchwiliwr o Aberystwyth wedi darganfod beth ddigwyddodd i'r anifail - diolch i ddyddiaduron coll ac e-bost annisgwyl o'r Almaen.

Ers degawdau, roedd gan berthnasau Alfred von Glasenapp stori deuluol dda i'w dweud. Neu'n hytrach, hanner stori dda.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf y fo oedd un o gapteiniaid llong danfor fwyaf llwyddiannus yr Almaen, a daeth yn ôl o'r frwydr ar y môr gyda swfenîr gwahanol - ci bychan.

Daeth 'Lotte' yn rhan o'u bywyd ac yna'n rhan o hanes chwedlonol y teulu ond ychydig iawn o fanylion oedd gan genhedlaeth heddiw gan fod y capten wedi marw ers degawdau.

Ac er iddo gadw dyddiadur preifat manwl o'i ddyddiau yn arwain criw'r U91, fe gafon nhw eu cuddio mewn tas wair ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd pan oedd rhaid i'w deulu ffoi o'u cartref.

Gydag Ewrop ar chwâl ar ôl 1945 aeth o byth yn ôl ac roedd y teulu yn credu bod y cofnodion wedi eu colli am byth - tan eleni.

Dianc mewn brys

Mae'r stori yn dechrau yn y môr oddi ar arfordir Sir Benfro yng ngwanwyn 1918. Roedd sgwner bren yr Ethel ar y ffordd i Iwerddon er mwyn cludo glo o Gaerdydd i New Ross pan welodd ei chriw long danfor yn dod tuag atynt.

Gyda llongau U yr Almaen wedi suddo miloedd o gychod yn ystod y Rhyfel Mawr doedd ond un peth ar feddwl y criw - dianc yn eu cychod achub gan adael popeth ar ôl.

Pan aeth yr Almaenwyr ar fwrdd y sgwner i gymryd unrhyw gyflenwadau defnyddiol cyn ei gyrru i wely'r môr, ymysg y cig, pysgod wedi'u sychu, a rhaffau oedd ci a adawyd ar ôl gan griw'r Ethel yn eu brys.

Fe gafodd y daeargi ei achub a'i fabwysiadu gan yr Almaenwyr a chael enw newydd. Aeth 'Lotte' yn ei blaen gyda'r tanforwyr i suddo nifer o longau eraill o amgylch Cymru cyn dychwelyd i'r Almaen.

Disgrifiad o’r llun,

Lotte, canol y rhes flaen, gyda chriw yr U 91 cyn iddynt gychwyn am yr Azores i ymgymryd â phatrôl rhwng mis Gorffennaf a mis Awst 1918 (Llun: Freundeskreis Traditionsarchiv Unterseeboote e.V)

Daeth y manylion i'r fei'r llynedd pan aeth Dr Rita Singer, o Aberystwyth, i'r Almaen fel rhan o ymchwil Prosiect Llongau U. Bwriad gwaith Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru oedd dweud hanes yr ymladd yn y môr o gwmpas Cymru yn ystod y Rhyfel Mawr.

Y dyddiadur coll

Fel Almaenes, roedd Dr Singer yn gallu darllen yr holl gofnodion swyddogol yn archifau'r Almaen - yn cynnwys y logiau roedd pob capten llong danfor yn gorfod eu llenwi'n ddyddiol.

Ond yng nghefn log Alfred von Glasenapp roedd dyddiaduron personol y capten, oedd yn dweud stori dra gwahanol i'r cyfrif swyddogol.

Doedd dim sôn am gi yn y log swyddogol - a dim syndod gan fod anifeiliaid wedi eu gwahardd - ond yn ei ddyddiadur roedd Alfred von Glasenapp yn dweud hanes Lotte. Y ci oedd "cariad pawb" ac roedd yn "anifail bach del sy'n dod â llawenydd i bawb ac sy'n arfer yn gyflym iawn â bywyd ar long danfor".

Ac fe wnaeth Dr Rita Singer ddarganfyddiad mewn archifdy arall hefyd: "Ro'n i'n chwilio am ffotograffau oherwydd ro'n i'n gwybod bod llawer o gapteiniaid yn tynnu lluniau. Roeddwn i mor lwcus i ddarganfod llun bach yn dangos y ci ar y llong... a nes i feddwl, dyma Lotte!"

Roedd hi'n gwybod bod von Glasenapp yn un o'r capteiniaid llong danfor fwyaf llwyddiannus yn yr Almaen a'i fod wedi marw yn 1958 yn 75 oed - ond doedd dim syniad beth ddigwyddodd i'r ci bach ar ôl y rhyfel.

E-bost annisgwyl

Ond ar ôl apelio am wybodaeth ar wefan Prosiect Llongau U fe laniodd e-bost annisgwyl o'r Almaen yn ddiweddar gan deulu'r capten.

Meddai Dr Rita Singer: "Roedden nhw'n chwilio ar y we am unrhyw wybodaeth am eu taid ac oherwydd tydi Glasenapp ddim yn enw cyffredin yn yr Almaen, roedd yn eithaf hawdd i ffeindio unrhyw stori am y teulu."

Ac mae'n amlwg o'r e-bost gan ŵyr y capten - oedd ddim am gael ei adnabod - eu bod wedi gwirioni:

"Dim ond ddoe y deuthum o hyd i'r cofnod am Lotte a'r U91 ar eich gwefan, ac i ddechrau doeddwn i ddim yn gallu credu fy llygaid. Roeddwn i wedi clywed stori 'Lotte' lawer gwaith gartref a phrofiad arbennig iawn oedd ei gweld hi'n cael ei chodi o chwedlau teuluol i fyd hanes dogfennol," meddai.

Mae'n egluro bod ei dad-cu wedi cadw'r ci ar ôl i'r rhyfel ddod i ben, ond yn ddiweddarach wedi ei roi i berthnasau.

Ychwanegodd nad oedd ei fam yn cofio'r ci, fu farw yn yr 1920au, ond ei bod wedi dod o hyd i lun ohoni yn blentyn bychan gyda chi tebyg iawn - a'r gair 'Lotti' wedi ei ysgrifennu ar y cefn.

Ffynhonnell y llun, Teulu von Glasenapp
Disgrifiad o’r llun,

Lotte a merch Alfred von Glasenapp yn 1926

Ond y peth mwyaf anghredadwy i'r teulu oedd y ffaith bod y dyddiaduron personol wedi eu darganfod:

"Roeddwn i'n meddwl eu bod wedi'u colli am byth. Yn ôl fy mam, pan gafodd fy nhad-cu a'm mam-gu eu gyrru o Silesia ym 1946, fe guddiodd fy mam-gu y dyddiaduron hyn mewn tas wair (o bob man), yn y gobaith y byddent yn gallu dod yn ôl yn fuan i'w nôl," meddai ŵyr Alfred von Glasenapp.

"Ond ni ddigwyddodd hynny wrth gwrs. Mae'n ymddangos bod y dyddiaduron rhyfel yn bwysig iawn i'm tad-cu... Ar hyd y blynyddoedd, byddai fy mam yn mynegi ei gofid bod y dogfennau hyn wedi mynd i ddifancoll.

Ffynhonnell y llun, Teulu von Glasenapp
Disgrifiad o’r llun,

Tudalen o albwm lluniau preifat o'r U91 yn ystod cyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf, ym meddiant ŵyr Alfred von Glasenapp.

"Mae bron yn amhosibl credu bod y dyddiaduron wedi goroesi, ac eto rydw i'n eich gweld chi'n dyfynnu ohonynt mewn du a gwyn…

"Llawenydd mawr i'm mam, sy'n 95 oed, fyddai gweld y dystiolaeth hon o fywyd ei thad yn ailymddangos, yn wyrthiol, ar ôl mwy na saith degawd."

Diolch i'r tîm yn Aberystwyth mae'r teulu nawr wedi cael copi o'r dyddiaduron.

Ond mae un darn pwysig o'r jig-so dal heb ei datrys. Beth oedd enw'r ci a'i hanes cyn dechrau ar ei fywyd newydd?

Hefyd o ddiddordeb: