Cam-drin ar ffermydd bridio cŵn: 'Gweithredu ar fyrder'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Materion Gwledig wedi ysgrifennu at brif swyddogion milfeddygol awdurdodau lleol Cymru yn codi pryderon wedi i ymchwiliad gan BBC Cymru ganfod amodau difrifol mewn ffermydd bridio cŵn sydd wedi eu trwyddedu gan gynghorau.
Mewn datganiad ysgrifenedig dywed Lesley Griffiths bod "angen gweithredu ar fyrder" yn sgil ymchwil cudd rhaglen Wales Investigates.
Dywedodd bod "gofynion lles cŵn sy'n bridio a'u cŵn bach yn bwysig iawn" a bod "achosion o beidio â chydymffurfio â hyn yn fy mhoeni yn fawr".
Ycwanegodd ei bod yn gobeithio y bydd cyfraith fydd yn gwahardd gwerthu cŵn a chathod bach yn anghyfreithlon mewn grym yng Nghymru erbyn 2020.
'Effaith hirdymor'
Mae wedi gofyn i aelodau Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad brys o'r rheolau bridio cŵn.
Bydd yr adolygiad hwnnw'n edrych ar unrhyw rwystrau gorfodi cyfredol, a sut mae darparu cyngor milfeddygol diduedd yn ystod y broses drwyddedu ac archwilio.
Mae Ms Griffiths wedi gwahodd cynrychiolwyr perthnasol i gyfarfod gyda Phrif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop i drafod y broses drwyddedu, gorfodi a rhwystrau.
Hefyd mae swyddogion yn datblygu ymgyrch wedi'i hanelu at aelodau'r cyhoedd sy'n ystyried prynu cŵn bach, gan dynnu sylw at bwysigrwydd gwneud hynny mewn ffordd gyfrifol.
Ond wrth fynd ati i geisio cyflwyno newidiadau "fydd yn cael effaith hirdymor ar safonau lles cŵn a chathod sy'n cael eu bridio yng Nghymru", mae Ms Griffiths yn rhybuddio bod newid deddfwriaeth ddim yn broses gyflym, "ac ni ddylai fod".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd30 Medi 2019