Adolygiad i'r diwydiant cŵn bach yn dilyn ymchwiliad BBC

  • Cyhoeddwyd
Yn ystod ffilmio cudd daeth rhaglen BBC Wales Investigates o hyd i gŵn mewn amodau difrifol
Disgrifiad o’r llun,

Yn ystod ffilmio cudd daeth rhaglen BBC Wales Investigates o hyd i gŵn mewn amodau difrifol

Mae gweinidog yn Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd adolygiad o reolau bridio cŵn yn dilyn ymchwiliad gan BBC Cymru.

Fe wnaeth rhaglen Wales Investigates ganfod amodau "brwnt" mewn sefydliadau sydd wedi cael eu cymeradwyo a'u trwyddedu gan gynghorau.

Dywedodd Rebecca Evans AC fod Llywodraeth Cymru yn rhannu'r dicter a fynegwyd yn y rhaglen.

Dywedodd y byddai'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn cychwyn adolygiad o'r rheolau bridio presennol, yn ysgrifennu at gyrff milfeddygol a chynghorau lleol am y mater a hefyd yn trafod y mater gyda Phrif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop.

Fel rhan o'r broses drwyddedu, mae bridwyr yn talu milfeddygon i wirio cŵn i benderfynu a ydyn nhw'n "ffit i fridio".

Dywedodd un arbenigwr wrth y rhaglen fod safonau rhai milfeddygon wedi "slipio" a'u bod bellach yn rhan o system oedd "wedi torri".

Mae rheolau Llywodraeth Cymru yn golygu fod unrhyw un sy'n bridio mwy na thair torraid neu fwy'r flwyddyn, gael trwydded gan y cyngor lleol.

Disgrifiad o’r llun,

Cŵn a ganfuwyd ar fferm yn Sir Gâr

Fe wnaeth y rhaglen ymweld â nifer o safleoedd oedd wedi'u cymeradwyo a chanfod cŵn oedd yn dioddef o afiechydon ac yn cael eu cadw mewn amodau gwael, a heb gyfle i gael ymarfer corff.

Fe wnaeth Ms Evans ei sylwadau yn y Senedd mewn ateb i gwestiwn gan yr AC Joyce Watson, a ddywedodd fod milfeddygon wedi "methu yn eu dyletswydd" a bod y rhaglen wedi dangos "creulondeb eithriadol mewn ffermydd cŵn bach".

"Mae'r ffermydd yma'n cael eu harchwilio'n flynyddol gan filfeddygon ac archwilwyr... pobl sydd i fod i flaenoriaethu lles yr anifeiliaid," meddai.

Atebodd Ms Evans: "Yn amlwg rydym yn rhannu ei ffieiddio, ond hefyd ei dicter at yr hyn a welwyd yn digwydd yma yng Nghymru... rydym i fod yn genedl o bobl sy'n caru anifeiliaid, ond eto fe welwn bethau fel hyn.

"Rwy'n gwybod fod y Gweinidog Materion Gwledig wedi, neu ar fin, ysgrifennu at gyrff milfeddygol a hefyd at awdurdodau lleol am y mater penodol yma.

"Mae'n cwrdd â'r Prif Swyddog Milfeddygol yfory, ond dwi hefyd yn gwybod ei bod yn bwriadu gofyn i'r grŵp lle anifeiliaid i edrych eto ar y rheolau bridio presennol er mwyn gwella amodau mewn sefydliadau bridio."