Blwyddyn wedi'r llifogydd: 'So ni'n meddwl am biti'r dŵr'
- Cyhoeddwyd

Maes parcio yn Llandysul dan ddŵr wedi Storm Callum
Union flwyddyn yn ôl, fe gafodd sawl ardal yn y gorllewin eu taro gan lifogydd tra roedd Storm Callum yn ei hanterth.
Un o'r ardaloedd a ddioddefodd waethaf oedd cymuned Pont-tyweli ar gyrion Llandysul.
Bu'n rhaid i dros 30 o deuluoedd adael eu cartrefi, a bu difrod mawr mewn dros 20 o fusnesau a chanolfannau cymunedol
Cymaint oedd maint y difrod i'w cartref, bu'n rhaid i Mary ac Ieuan Williams edrych am gartref dros dro.
Fe dreuliodd y ddau fisoedd, a chyfnod y Nadolig, mewn carafán yn ymyl eu cartref, tra roedd adeiladwyr yn y tŷ ar lan afon Teifi.
Yn y pendraw, bu'n rhaid iddyn nhw aros am bum mis cyn cael dychwelyd adref.
Dywedodd Mary Williams bod dod adref fel dod nôl i westy
"Daethon i nôl yma ganol mis Mawrth, "meddai Mrs Williams. "Oedd hi fel dod mewn i hotel, bod ar wyliau achos oedd y cwbwl yn newydd i ni.
"O'dd y tŷ yn hollol wahanol i ni… o'n ni'n barod i ddod mas o'r garafán erbyn hyn oherwydd o'dd y gaeaf wedi bod yn hir."
Mae Mr a Mrs Williams wedi colli tipyn o'u heiddo.
"O'dd fy mam a 'nhad yma. Yn 1957 daethon nhw lawr i fyw yma. O'dd hi [fy mam] wedi gweld dŵr yn dod mewn yn 1987 ond ddim gymaint â'r tro hyn.

Gwaith atgyweirio i gartref Ieuan a Mary Williams
"Aethon nhw â rhai o'r dodrefn bant i gael ei sychu a gethon ni dipyn o rheiny yn ôl - ond so ni wedi cael y cyfan.
"Roedd rhai ohonyn nhw wedi mynd yn rhy wael, ambell i gwpwrdd wedi torri yn rhacs.
"Lot o beth 'ma o'dd yn waith fy nhad, rodd y seld yn waith fy nhad - maen nhw wedi sychu nhw lan a polishio nhw a ni wedi cael nhw nôl, a wi'n falch o hynny."
Dysgu gwersi
Mae adroddiad wedi ei gyhoeddi, yn sgil cydweithio rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru a chynghorau Sir Gaerfyrddin a Cheredigion er mwyn ystyried ffyrdd o baratoi ar gyfer y dyfodol.
Mae ynddo dros 50 o argymhellion. Yn ôl cynghorydd sir sy'n cynrychioli'r ardal, mae nifer o wersi i'w dysgu wrth symud ymlaen.

Mae Linda Evans yn pwysleisio mai grym natur oedd wrth wraidd y fath ddinistr.
"Mi nath y dŵr lifo ym mhen ucha' Llandysul mas i'r caeau a dod 'nôl i'r afon ym Mhont-tyweli.
"Nath darn o'r bont syrthio i'r afon ac roedd hyn yn wers, achos pan gwympodd y wal i mewn i'r afon roedd 'na le i'r dŵr lifo nôl mewn i'r afon.
"Mae'r wal wedi ei hadeiladu nawr, mae barriers yna, felly os digwyddith e eto, bydd lle i'r dŵr lifo nôl i mewn i'r afon."
Osgoi meddwl am lifogydd pellach
Yng nghartref Ieuan a Mary Williams, mae'r dycnwch yn drech na'r diflastod.
Wrth ymateb i'r tywydd gwlyb diweddar a rhagolygon pryderus ar hyn o bryd, dywedodd Mr Williams:
"Ma' tuedd peidio meddwl am biti fe 'da ni, fel 'se rhan o'r ymennydd yn cwato fe. A fi'n credu na'r ffordd ore i neud hi, neu alle chi byth gysgu."

Bu'n rhaid i Ieuan a Mary Williams fyw mewn carafán am fisoedd cyn cael dychwelyd i'w cartref
Yr un yw teimladau Mrs Williams.
"So ni'n meddwl obiti'r dŵr," meddai. "Allwch chi'm byw fel na.
"Ma fe 'di paso, a fi'n gobeithio ddaw e ddim eto, ond sai'n meddwl obiti fe."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2018