Dechrau'r clirio wedi Storm Callum

  • Cyhoeddwyd
LlandysulFfynhonnell y llun, Jeremy Rundle
Disgrifiad o’r llun,

Mae maes parcio yn Llandysul yn parhau o dan ddŵr dydd Sul

Mae'r gwaith wedi dechrau o glirio difrod i dai a busnesau wedi gwynt a glaw storm Callum ddydd Gwener a ddydd Sadwrn.

Mae lefelau afonydd yn parhau i fod yn uchel, yn enwedig yn ne orllewin Cymru, ac mae sawl rhybudd coch am lifogydd yn parhau mewn grym brynhawn Sul.

Yn y cyfamser mae ymchwiliad yn cael ei gynnal ar ôl i ddyn ifanc gael ei ladd mewn tirlithriad yng Nghwmduad yn Sir Gâr.

Dywed Heddlu Dyfed-Powys: "Er bod y gwaethaf o'r glaw wedi mynd heibio, mae lefelau afonydd mewn rhannau o Geredigion a Sir Gaerfyrddin yn dal yn eithriadol o uchel ac mae nifer o ffyrdd a phontydd yn parhau i fod ar gau.

"Mae swyddogion yn dal i ymchwilio i dirlithriad ar yr A484 yng Nghwmduad, Sir Gaerfyrddin, lle mae dyn wedi marw.

"Mae swyddogion arbenigol yn cefnogi ei deulu, a bydd y ffordd ar gau am beth amser eto."

Ffynhonnell y llun, Daniel James
Disgrifiad o’r llun,

Mae afon Tywi wedi gorlifo i sawl busnes oedd ger ei glannau

Fe dorrodd afon Tywi drwy amddiffynfeydd llifogydd ger cylchfan Llangynnwr yn hwyr brynhawn Sadwrn, ac roedd pryderon y byddai llanw uchel neithiwr yn achosi i'r dŵr lifo uwchben y welydd.

Nawr mae yn cynghorydd sir yn galw ar Gyfoeth Naturiol Cymru i edrych o'r newydd ar y wal, am fod dŵr afon Tywi lai na metr o ben yr amddiffynfeydd nos Sadwrn.

Dywedodd: "Mae'n rhaid edrych ar yr amddiffynfeydd yma ar frys, ac ystyried a oes angen eu gwneud nhw'n uwch. Roedd y dŵr yn dod dros y welydd mewn sawl man."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Cyfoeth Naturiol Cymru | Natural Resources Wales

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Cyfoeth Naturiol Cymru | Natural Resources Wales
Disgrifiad,

Tirlithriad mawr dros y ffordd ger Llandysul

Brynhawn Sul fe gyhoeddodd Heddlu Dyfed Powys gyngor i'r cyhoedd am fod nifer o ffyrdd a phontydd yn dal ar gau.

"Mae na drafferthion mawr ar ffordd yr A484 rhwng Caerfyrddin ac Aberteifi o ganlyniad i'r llifogydd mawr ddydd Sadwrn, gyda nifer o bontydd ynghau.

"Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda phartneriaid i geisio dargyfeirio traffig ond mae oedi i deithwyr yn bosib iawn o ganlyniad.

"Mae rhai ffyrdd wedi cael eu cau oherwydd pryderon am ddiogelwch felly peidiwch a'u hanwybyddu a pheidiwch â mentro gyrru i'r dŵr."

"Dŵr wrth ymyl matras y gwely"

Mae perchnogion sawl cartref wedi bod yn clirio llanast drwy gydol dydd Sul ar ôl i ddŵr fynd i mewn i'w hadeilad.

Ym Mhontargothi fe gododd lefel afon Cothi uwchlaw'r bont, gan ruthro i mewn i dai.

Dywedodd un teulu wrth ohebydd BBC Cymru fod eu Mam, 93 oed, wedi deffro fore Sadwrn i ddarganfod bod ei gwely wedi ei amgylchynu gan ddŵr, a bod y lefel wedi cyrraedd gwaelod ei matras.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd perchennog 93 oed y tŷ hwn yn ei gwely pan sylweddolodd fod dŵr yn ei chartref

Disgrifiad o’r llun,

Wrth i'r dŵr redeg oddi ar gaeau yn Nantgaredig fe aethon nhw a bêls gwair gyda nhw

Mae 'r llifogydd wedi effeithio ar sawl ffordd yng Nghymru.

Ar agor gyda gofal: (14:00 dydd Sul)

  • A485 Betws Bledrws

  • A482 Felinfach

  • Pont Llanbedr Pont Steffan ger Co-op

  • Pont Llanybydder

  • Pont Llandysul

  • A44 Gelli Angharad i Llanbadarn

Ar gau:

  • A487 Pont Ddyfi ym Machynlleth

  • A484 rhwng Cwmduad a Rhos

  • A40 rhwng Abergwili a Llandeilo (Y ffordd rhwng Aberhonddu a Llanymddyfri ar agor, ond gyda gofal)

  • A4042 Felin Fach i Gylchfan Hardwick y Fenni

  • B4459 Capel Dewi (oherwydd tirlithriad)

  • B4343 Cellan

  • B4437 Talsarn

  • B4476 Abercerdin

  • Pont Castellnewydd Emlyn

  • Pont Cenarth

  • Pont Llechryd

  • Pont Croesor rhwng Llanfrothen a Phrenteg yng Ngwynedd

Ffynhonnell y llun, Anwen Francis
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y bont yn Llechryd yng Ngheredigion ddiflannu yn llwyr o dan ddŵr Afon Teifi

Am y wybodaeth ddiweddaraf am rybuddion tywydd, llifogydd a theithio yn eich ardal chi, ewch i'r gwefannau yma: