Trafnidiaeth Cymru'n apelio ar bobl i fod yn amyneddgar

  • Cyhoeddwyd
Class 170 trainFfynhonnell y llun, Richard Jones/MLA Photography/TfW
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i drenau newydd fel y rhain deithio rhwng Cheltenham, Caerdydd a Maesteg o fis Rhagfyr 2019

A hithau'n flwyddyn ers i Drafnidiaeth Cymru fod â chyfrifoldeb am wasanaethau rheilffordd Cymru, mae'r pennaeth yn dweud ei fod yn deall rhwystredigaethau teithwyr.

Yn ôl yr arolwg diweddaraf mae 82% o deithwyr ar y cyfan yn fodlon â'r gwasanaeth - yr un faint â'r flwyddyn flaenorol.

Dywedodd teithwyr eu bod wedi gweld gwelliant yn y modd yr ymdrinnir ag oedi.

"Ry'n wedi gweithio'n galed iawn," meddai'r prif weithredwr, James Price.

Mae'n cydnabod bod rhwystredigaeth wedi bod oherwydd arafwch ond bod llawer o "waith dal lan" wedi digwydd ar ôl y difrod i drenau yn ystod stormydd yn hydref y llynedd.

Dywedodd bod Trafnidiaeth Cymru wedi cael trenau o lefydd eraill i wneud iawn am ddiffyg trenau, ond mae'n cydnabod y bydd oedi cyn y bydd y trenau newydd 769 yn cyrraedd y cymoedd.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Storm Callum achosi trafferthion ar draws rhwydwaith trenau Cymru

Yn ôl yr arolwg ymhlith teithwyr:

  • Roedd teithwyr lawn mor hapus â dibynadwyedd trenau (80%) a gwerth am arian (55%) ag yr oeddynt pan oedd cwmni Arriva yn rhedeg y trenau;

  • Roedd yna ychydig o welliannau o ran glendid a nifer y bobl ar drenau - ond roedd y 1,100 o deithwyr a gafodd eu holi yn y gwanwyn ychydig yn llai bodlon, yn gyffredinol, na gweddill teithwyr y DU;

  • Roedd hanner y rhai a holwyd yn fodlon â sut yr ymdriniwyd ag oedi ar drenau, o'i gymharu â thraean yn 2018.

Ychwanegodd Mr Price: "Ry'n wedi cyflawni popeth yr ydym wedi addo ei wneud - mewn ffordd wahanol efallai oherwydd amrywiol drenau.

"Yr hyn y byddwn yn hoffi canolbwyntio arno yw argaeledd unedau ac yna symud ymlaen i drawsnewid y rhwydwaith - yn benodol y Metro yn y flwyddyn sydd i ddod."

'Rhaid bod yn realistig'

Dywedodd Christine Boston, cyfarwyddwr Cymreig y Gymdeithas Cludiant Cymunedol bod camau positif wedi'u gwneud ond nad oedd pethau wedi bod yn rhwydd, yn enwedig gan fod angen gwasanaethu cymunedau gwledig hefyd.

"Mae'n waith caled, yn enwedig o ystyried bod Trafnidiaeth Cymru wedi cael dechrau anodd, y maes yn eang a'r disgwyliadau uchel," meddai.

"Rhaid i ni fod yn realistig - does dim disgwyl trawsnewidiad mewn trafnidiaeth dros nos."

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cais i beidio cyflwyno rheoliadau cysylltiedig â threnau i bobl ag anableddau am y tro oherwydd arafwch prosesu archebion ar draws y DU.

Ychwanegodd Ms Boston: "Ry'n yn amlwg yn siomedig o glywed y newyddion yna.

"Ry'n am gael mynediad i bawb yn uchel ar ein blaenoriaethau - a bydd rhaid i'r mater gael ei gyflwyno cyn gynted â phosib."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Matthew Marshman, sy'n teithio ar drenau Trafnidiaeth Cymru, nad yw e byth yn cael sedd ar ei daith i Gaerdydd

Yn gynharach y mis hwn cyhoeddodd Trafnidiaeth Cymru y byddai 6,500 o seddi ychwanegol ar gael ar drenau'r cymoedd o fis Rhagfyr ymlaen.

Ond yn ôl Matthew Marshman, sy'n teithio'n ddyddiol o Lyn Ebwy i Gaerdydd, mae'n dorcalonnus nad yw'r newid eto i'w weld tra bod pris tocynnau wedi codi.

"Dim newid hyd yma i fi - yn aml mae'n brysur ar y rheilffyrdd, mae'r trenau yn aml yn hwyr a does, yn aml, ddim llawer o gerbydau," meddai.

"Ry'n wedi edrych ymlaen at y newidiadau ond dyw hynny ddim wedi digwydd eto. Gobeithio y bydd newid yn fuan."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd cadeirydd Trafnidiaeth Cymru ei fod yn credu bod cyfathrebu gyda chwsmeriaid wedi gwella

Cyfrifoldeb Trafnidiaeth Cymru yw arolygu'r strategaeth trafnidiaeth cyhoeddus ar ran Llywodraeth Cymru, ac mae'n gweithio ar y cyd â chwmni trenau KeolisAmey, a gafodd y cytundeb £5bn am 15 mlynedd.

Dywedodd cadeirydd Trafnidiaeth Cymru, Scott Waddington: "Mae 'na ddisgwyliadau gan bobl ac mae hynny'n iawn.

"Dyw'r gwasanaeth ddim wedi cwrdd â phob gofyn yn y gorffennol ond mae'n brosiect mawr ac mae'n mynd i gymryd amser i gwrdd â'r gofynion yn iawn ac yn effeithiol.

"Fe fuaswn i'n hoffi meddwl bod ein cyfathrebu gyda chwsmeriaid wedi gwella, drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Mae'n lot haws cael sgwrs gyson gyda phobl y dyddiau hyn."

Apeliodd am amynedd ac ychwanegodd ei fod yn hyderus y bydd pobl yn "gweld gwahaniaeth" yn ystod y pedair neu bum mlynedd nesaf.