Trafnidiaeth Cymru 'wedi dysgu gwersi' ers problemau

  • Cyhoeddwyd
Trên yn Storm Callum
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Storm Callum achosi trafferthion ar draws rhwydwaith trenau Cymru

Mae penaethiaid Trafnidiaeth Cymru a Network Rail yn dweud eu bod wedi dysgu gwersi ers i stormydd gael effaith fawr ar y rhwydwaith trenau llynedd.

Cafodd nifer fawr o drenau eu canslo ym mis Hydref 2018 yn dilyn Storm Callum.

Ar un pwynt doedd dim modd defnyddio traean o'r 127 o drenau sydd gan Drafnidiaeth Cymru am eu bod yn cael eu trwsio.

Yn dilyn beirniadaeth gyhoeddus ac apêl gan y Cynulliad, dywedodd Trafnidiaeth Cymru a Network Rail bod mwy o adnoddau nag erioed wedi'u darparu er mwyn sicrhau na fydd problemau tebyg eleni.

'Gweithio pob awr o'r dydd'

"Mae gwersi wastad yn cael eu dysgu yn y diwydiant trenau, a dim yn fwy na'r gwersi gafodd eu dysgu ar lwybrau Cymru a'r Gororau yr hydref diwethaf," meddai Bill Kelly o Network Rail.

"Rydyn ni wedi buddsoddi mwy o adnoddau nag erioed i'r gwaith paratoi ar gyfer hydref eleni, ar draws nifer o feysydd, a byddwn yn gweithio bob awr o'r dydd os oes angen er mwyn cadw'r rhwydwaith ar waith."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi gwneud gwelliannau i nifer o'i drenau

Fe wnaeth Trafnidiaeth Cymru gymryd rheolaeth o reilffyrdd Cymru ar 14 Hydref y llynedd, ac ni allai fod wedi wynebu dechrau anoddach.

Ddiwrnod ynghynt fe wnaeth Storm Callum achosi'r llifogydd gwaethaf yng Nghymru ers 30 mlynedd, gan arwain at ganslo nifer o drenau.

Rhoddodd Trafnidiaeth Cymru'r bai ar y cwmni oedd yn rhedeg y gwasanaeth ynghynt, Trenau Arriva Cymru, gan ddweud eu bod wedi methu â chynnal y trenau i'r safon y dylen nhw.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru feio gweinidogion y DU am danfuddsoddi yn y rhwydwaith.

Yn dilyn hynny fe wnaeth pwyllgor Cynulliad annog y sefydliadau i beidio rhoi'r bai ar ei gilydd a gwneud teithwyr yn flaenoriaeth.

'Calonogol'

Mae nifer o drenau Cymru bellach â gwell olwynion, sy'n eu gwneud yn fwy tebygol o allu ymdopi â dŵr a dail ar y traciau.

Mae Network Rail hefyd wedi cael gwared ar y tyfiant ar draciau er mwyn lleihau'r tebygolrwydd y bydd planhigion yn atal trenau.

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates bod y cydweithio rhwng Trafnidiaeth Cymru a Network Rail yn "galonogol".