Rhybudd llifogydd mewn grym yn dilyn glaw trwm

  • Cyhoeddwyd
rhybuddFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd/AFP

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi pum rhybudd llifogydd yn dilyn glaw trwm dros nos a rhybudd o ragor o law weddill dydd Gwener.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, sydd wedi cyhoeddodd rhybudd melyn am law trwm, fe allai hyd at 70mm o law ddisgyn dros rannau o Gymru ddydd Gwener, gyda disgwyl 15-30mm ddisgyn ar hyd y rhan fwyaf o'r wlad.

Mae'r rhybuddion melyn am lifogydd posib yn sôn am:

  • Ardaloedd o amgylch Afon Conwy o Ddolwyddelan i Gonwy;

  • Ardaloedd o gwmpas Afon Dysynni, o Dywyn i Minffordd;

  • Efyrnwy, Tanat a Cain a'u llednentydd;

  • Ardaloedd o amgylch Afon Dyfi, o Ddinas Mawddwy a Llanbrynmair i'r aber, gan gynnwys Machynlleth;

  • Ardaloedd o amgylch Afon Mawddach ac Afon Wnion, o Fairbourne i Ganllwyd a Rhydymain.

Mae'r rhybudd yn dweud fod llifogydd yn debygol mewn rhai cartrefi a busnesau.

Mae disgwyl dŵr ar wyneb y ffyrdd ar draws y wlad hefyd, sy'n debygol o greu amodau anodd i yrwyr.

Bydd trafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn cael ei effeithio gydag amseroedd teithio yn sylweddol hirach.