Medal aur yn y bocsio i Lauren Price

  • Cyhoeddwyd
Boxer Lauren PriceFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Lauren Price wedi ennill medal aur ym Mhencampwriaeth Bocsio y Byd yn Rwsia, ar ôl apêl lwyddiannus.

Yn wreiddiol roedd y barnwr wedi penderfynu mai Nouchka Fontijn o'r Iseldiroedd oedd yn fuddugol.

Fe wnaeth tri barnwr fynd o blaid Nouchka Fontijn (30-27, 30-27 a 29-28), gyda dau yn rhoi Price ar y blaen 29-28.

Ond fe wnaeth GB Boxing apelio yn erbyn y penderfyniad.

Price, 25 oed, yw'r bocsiwr cyntaf o Gymru i ennill aur ym mhencampwriaeth y byd.

Fe wnaeth Price, pencampwr yng ngemau'r Gymanwlad, gael medal efydd yn yr un gystadleuaeth y llynedd.