Diffyg ysgolion Cymraeg yn 'straen' ar rieni Merthyr Tudful

  • Cyhoeddwyd
Addysg Merthyr Tudful
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai rhieni yn ardal Merthyr Tudful yn dweud bod addysg eu plant yn ansicr gan fod diffyg lleoedd yn yr ysgolion Cymraeg

Mae rhieni yn ardal Merthyr Tudful, sy'n awyddus i'w plant gael addysg Gymraeg, yn cael eu gwrthod, yn ôl ymgyrchwyr.

Mae mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg, sydd wedi dechrau cangen yn yr ardal, yn dweud bod angen ysgol uwchradd Gymraeg yn y sir a mwy o ddarpariaeth gynradd Gymraeg.

Dwy ysgol gynradd Gymraeg sydd yn sir Merthyr Tudful ar hyn o bryd ac mae'r ddwy bron yn llawn. Mae 480 o ddisgyblion yn Ysgol Santes Tudful a thua 300 yn Ysgol Rhyd y Grug.

Does dim ysgol uwchradd Gymraeg yn y sir ar hyn o bryd, mae'r ysgol agosaf yn Rhondda Cynon Taf.

Yn ôl Cyngor Merthyr Tudful, mae 'na gynlluniau i ehangu'r ddarpariaeth gynradd, gan gynnwys adeiladu trydedd ysgol gynradd yng ngogledd y sir.

Ond mae ymgyrchwyr yn dweud bod angen gweithredu ar frys.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Abigail Smith wedi bod yn "becso" am y sefyllfa ers i'w merch fach gael ei geni

Mae rhaglen Newyddion 9 wedi siarad â rhieni yn yr ardal, sy'n dweud bod addysg eu plant yn ansicr gan fod diffyg lleoedd yn yr ysgolion Cymraeg.

"Bydd Amelia yn dechrau yn y meithrin ym mis Ionawr - rhan amser," meddai Victoria Smith, sy'n fam i ddwy.

"Mae Sophie dim ond yn naw mis, ond ni just yn gobeithio bydd lle iddi hi hefyd i fynychu'r un ysgol gydag Amelia a ddim gorfod mynd i ysgol wahanol, oherwydd mae cymaint o bobl eisiau addysg Gymraeg.

"Fi ddim wir eisiau fy mhlant mewn dwy ysgol wahanol. Ar ddiwedd y dydd, fi moyn i nhw gael addysg Gymraeg so os mae fe gorfod digwydd, efallai bydd rhaid ond ni'n gobeithio gallwn ni osgoi hynny..."

'Straen ar rieni'

"Os doeddwn i ddim eisiau Millie fynd i ysgol Gymraeg, does dim angen i fi becso oherwydd mae cymaint o ysgolion Saesneg," meddai Abigail Sullivan.

"Ond dwi wedi bod yn becso ers iddi hi gael ei geni.

"Y diwrnod wnaeth hi droi yn ddwy roedd rhaid i fi drio [am le ysgol] a dal yn becso ers hynny... mae ddim yn deg i roi'r straen yna ar rieni."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lowri Prosser bod "pawb eisiau siarad Cymraeg yn yr ardal" ond bod y diffyg lle yn "peri gofid" i rieni fel hi

Yn ôl Lisbeth McLean, o Fenter Iaith Merthyr Tudful, mae rhieni eisoes yn cael eu gwrthod o'r ysgolion.

"Daeth menyw mewn wythnos ddiwethaf i gyfleu wrthym ni bod hi wedi colli mas ar ddarpariaeth Gymraeg i'w phlentyn hi achos doedd dim lle yn yr ysgol Gymraeg lleol," meddai.

"Roedd hi gyda'r bwriad o ddysgu Cymraeg ei hunan a'i gŵr hefyd. Felly'r ffaith bod y plentyn yna heb gael addysg Gymraeg, mae'n meddwl bod ni wedi colli teulu cyfan.

"Mae hynny'n wir bob tro mae plentyn yn cael ei arallgyfeirio o addysg Gymraeg, ry'n ni'n colli teuluoedd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol Rhyd y Grug yn un o ddwy ysgol gynradd Gymraeg sydd yn sir Merthyr Tudful ar hyn o bryd ac mae'r ddwy bron yn llawn

Dywedodd Cyngor Merthyr Tudful fod yr awdurdod yn datblygu ei ddarpariaeth Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar ac am ehangu'r ddarpariaeth gynradd.

"Bydd y drydedd ysgol yn dechrau fel ysgol cangen ac wrth i'r ysgol hon dyfu bydd trafodaeth bellach dros y cydweithio llwyddiannus sydd wedi bod â Chyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer disgyblion oedran uwchradd," meddai llefarydd.