Dros 100 o bobl yn chwilio am Brooke Morris

  • Cyhoeddwyd
Clwb Rygbi NelsonFfynhonnell y llun, Nelson RFC/Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Mae Clwb Rygbi Nelson wedi cyhoeddi'r llun yma o Brooke Morris ar Facebook

Mae dros 100 o bobl wedi ymgynnull yng Nghlwb Rygbi Treharris i barhau gyda'r gwaith o chwilio am fenyw sydd wedi bod ar goll ers oriau mân fore Sadwrn.

Cafodd Brooke Morris, 22, ei gweld am y tro diwethaf y tu allan i'w chartref yn Bontnewydd Terrace, Trelewis, ar ôl noson allan yng nghanol Merthyr Tudful.

Fore Mawrth fe wnaeth aelodau o'r gwasanaeth tân ac achub, yr heddlu, gweithwyr a thrigolion eraill Treharris ymgynnull yn y clwb.

Mae swyddogion arbenigol yn canolbwyntio ar Drelewis a'r cyffiniau gan gynnwys coedwigoedd ac afonydd cyfagos.

Cafodd Ms Morris ei disgrifio fel menyw 5'3" o daldra gyda gwallt hir brown. Pan aeth ar goll roedd yn gwisgo jîns a chrys llewys hir coch.

Mae'r heddlu'n credu na wnaeth fynd i mewn i'w chartref pan gafodd ei gollwng yno wedi'r noson allan, ond dydyn nhw ddim yn gwybod beth oedd ei symudiadau nesaf.

Cafodd y gwirfoddolwyr eu rhannu i mewn i bedwar grŵp, cyn iddyn nhw fynd i wahanol gyfeiriadau am 11:00.

Roedd rhai o'i gwirfoddolwyr wedi dod â chŵn i'w cynorthwyo yn y gwaith o chwilio, tra bod eraill wedi mynd mewn grwpiau bach mewn ceir.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth dwsinau o wirfoddolwyr i gynorthwyo gyda'r gwaith o chwilio am Brooke Morris

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Brooke Morris ei gweld ddiwethaf y tu allan i'w chartref yn Nhreharris fore Sadwrn

Dywedodd Rosslyn Martin, 68, ei bod hi'n rhy hen i chwilio yn unrhywle heblaw am ar dir gwastad, ond bod y gymuned gyfan wedi dod at ei gilydd.

"Mae pawb wedi cael cymaint o fraw ac maen nhw eisiau helpu, ac mae pawb yn gobeithio, just gobeithio."

Mae Tîm Achub Mynydd Bannau Brycheiniog hefyd wedi bod yn cynorthwyo gyda'r chwilio.

Mae Heddlu De Cymru, sy'n arwain yr ymchwiliad i ddiflaniad Brooke yn dweud eu bod "yn mynd yn fwyfwy pryderus amdani".

Dylai unrhyw un welodd Ms Morris ar ôl tua 02:30 fore Sadwrn, 12 Hydref, ffonio'r heddlu ar 101 gan nodi'r cyfeirnod *378028.