Dyn wedi gwerthu penglogau anifeiliaid prin ar y we

  • Cyhoeddwyd
PenglogFfynhonnell y llun, cps
Disgrifiad o’r llun,

Roedd penglog hipopotamws ymysg ei gasgliad

Mae dyn o Gaerdydd wedi pledio'n euog i werthu penglogau anifeiliaid prin ar y we.

Roedd Michael Tang, 49 oed, dan ymchwiliad yr heddlu ar ôl iddo restru penglogau mwncïod ar werth ar wefan ebay.

Pan aeth swyddogion i'w gartref, roedd ganddo dros 50 o rywogaethau gan gynnwys penglog rinoseros, sgerbydau gorila a mwncïod a chwpwrdd llawn esgyrn bodau dynol.

Ar ôl edrych ar ei gyfrif ebay, roedd Tang eisoes wedi gwerthu dant ffosil mamoth a chragen armadillo.

Ffynhonnell y llun, CPS
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ystlym mewn bocs wedi'i ddarganfod yn ei gartref

Er nad yw dosbarthu'r math yma o eitemau yn anghyfreithlon, mae angen tystysgrif i brynu a gwerthu'r rhywogaethau sydd dan fygythiad o ddiflannu.

Dywedodd Stephen Head o Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS): "Fe wnaeth Tang wneud arian drwy werthiant anghyfreithlon o eitemau prin.

"Mae rheoliadau yn eu lle i warchod anifeiliaid sydd dan fygythiad o ddiflannu'n gyfan gwbl.

"Roedd gan Tang 15 penglog a oedd angen tystysgrif, ond roedd ond â gwaith papur ar gyfer un tsimpansî ganddo.

"Fe wnaeth gadarnhau ei fod wedi gwerthu'r eitemau heb y dogfennau angenrheidiol ac fe blediodd yn euog i 24 cyhuddiad o fasnachu eitemau sydd dan fygythiad."

Ffynhonnell y llun, cps
Disgrifiad o’r llun,

Roedd penglogau mwnciod i'w gweld ar silff yn nhŷ Michael Tang