'Gwerthwch fferm er budd y gymuned, nid am y pris uchaf'
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr sy'n gobeithio prynu fferm hynafol gan Gyngor Sir Penfro er mwyn sefydlu menter gymunedol yn galw ar yr awdurdod i werthu'r eiddo er lles y gymuned, yn hytrach na sicrhau'r pris gorau.
Mae'n rhaid i'r ymgyrchwyr ac unrhyw un arall sydd â diddordeb yn Fferm Trecadwgan gyflwyno cynigion i'r cyngor erbyn 1 Tachwedd.
Yn ôl Cymdeithas Trecadwgan mae'r cyngor, "yn anesboniadwy", yn eu gorfodi "i gystadlu yn erbyn datblygwyr preifat", heb gymryd i ystyriaeth "gwerth cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd" eu cais nhw.
Dywedodd y cyngor eu bod "wedi derbyn sawl un yn dangos diddordeb gan brynwyr posib sydd wedi cynnig nifer o syniadau ynglŷn â defnydd y lle".
Mae'r rhain yn cynnwys "cadw'r lleoliad fel fferm fechan, cynnal digwyddiadau twristiaeth ac un sydd â syniadau tebyg iawn i gynllun grŵp achub Trecadwgan".
'Cyfle unwaith mewn oes'
Roedd bwriad i werthu'r ffermdy, syn dyddio 'nôl i'r 15fed ganrif, mewn arwerthiant ym mis Mehefin, gydag amcan bris o £450,000.
Cytunodd y cyngor i ohirio'r gwerthiant a rhoi mwy o amser i'r grŵp ymgyrchu godi arian a chreu cynllun busnes, gan ddatgan bwriad o hyd i dderbyn y cynnig uchaf "boed hynny gan y grŵp neu beidio".
Dywed y grŵp bod yna "gyfle unwaith mewn oes" i sefydlu menter a fyddai'n "cyfrannu at hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr" a chynhyrchu bara a llysiau ar gyfer pobl leol.
Mae atodiad i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a ddaeth i rym yng Nghymru yn 2003 yn gwneud hi'n bosib i awdurdodau lleol werthu eiddo am lai na'r pris uchaf posib dan amgylchiadau arbennig heb orfod gofyn am sêl bendith gan y Cynulliad.
Mae gofyn i'r gwerthiant gyfrannu at wella neu hybu lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ardal a'i phoblogaeth, ac i'r gwahaniaeth rhwng y pris posib a'r pris a gytunwyd arno fod yn llai na £2m.
Ond mewn llythyrau at gynghorwyr sir ac Aelodau Cynulliad, mae Cymdeithas Trecadwgan yn dweud ei fod wedi methu â newid safbwynt "disymud" ac "annerbyniol" y cyngor.
Maen nhw hefyd yn cyhuddo'r cyngor o wrthod cydweithio â nhw, gan roi gwybodaeth "wael, hwyr, anghywir, ac mewn rhai achosion, dim ateb o gwbl".
Dywedodd Rupert Dunn o Gymdeithas Trecadwgan, sydd nawr yn gofyn am gyfarfod gyda phennaeth y cyngor: "Rydym wedi rhoi ein holl galon ac enaid i'r cynllun busnes i sicrhau benthyciad banc.
"Mae pob agwedd o'r cynllun yn adlewyrchu dyheadau'r gymuned.
"Mae hefyd yn siomedig bod dim newid i benderfyniad y cyngor i werthu Trecadwgan i'r cynigiwr uchaf er bod ein cynlluniau'n cynnwys arbedion costau i wasanaethau cyhoeddus Sir Benfro."
'Balans cywir'
Mae cyfarwyddwr adnoddau cymunedol y cyngor, Steven Jones yn gwadu cyhuddiadau o ddiffyg cydweithio a chyfathrebu gwael, gan ddweud ei fod wedi mynnu manylion llawn gan y gymdeithas "oherwydd difrifoldeb y gŵyn" pan ddaeth cynnwys y llythyrau i'w sylw.
Mae'r cyngor hefyd yn dweud nad ydyn nhw wedi dderbyn unrhyw gynllun ar gyfer yr adeilad na chynllun arbed costau gwasanaethau cyhoeddus yn Sir Benfro gan y grŵp, na dderbyn manylion ar sut i gyflawni hynny.
Dywedodd Bob Kilmister, sy'n gyfrifol am gyllid ar gabinet Cyngor Sir Penfro nad datblygwyr preifat, o reidrwydd, fydd yn prynu'r fferm yn y pen draw, a bod asiantaeth ar ran y cyngor wedi derbyn nifer o gynigion o ddiddordeb.
Mae'r prynwyr posib, meddai, wedi awgrymu nifer o syniadau posib, gan gynnwys cadw'r eiddo fel tyddyn, gweithgareddau twristiaeth ar raddfa fach, ac un cynnig "debyg" i un Cymdeithas Trecadwgan.
"Mae'r cyngor yn cydnabod bod diddordeb mawr yn Fferm Trecadwgan" meddai.
"Ein nod yw cael y balans cywir rhwng uchelgais y grŵp cymunedol a budd y cyhoedd ehangach fydd yn cyd-fynd gyda Deddf Llywodraeth Leol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2019